The Hunger Games : The Ballad of Songbirds and Snakes: adolygiad gan Riley Barn
Masnachfraint llyfrau a ffilmiau yw The Hunger Games sydd wedi bod yn uchel ei pharch ers blynyddoedd. Mae’n stori gymhellol wedi’i hysgrifennu’n dda gyda chymeriadau y gall y gynulleidfa deimlo drostyn nhw a’u deall heb fod yn hynod ragweladwy. Daeth y fasnachfraint hon i ben gyda The Hunger Games: Mockingjay Part 2 a meddyliais mai dyna fyddai’r diwedd. Roeddwn i'n meddwl bod y stori wedi dod i ben, roedd y prif gymeriadau wedi cwblhau eu cenhadaeth ac roedd popeth yn dda ond roeddwn i'n anghywir. Roeddwn i'n meddwl bod hon yn mynd i fod yn gipiad arall am arian i odro'r olaf allan o drioleg ffilm dda ac roeddwn i'n meddwl mai dim ond rhaghanes llawn sbwriel arall fyddai nad oedd neb ei heisiau. Yna gwyliais y ffilm.
Yn syml, ac yn y ffordd orau y gallaf, mae'r ffilm hon yn esbonio'n berffaith ddisgyniad Coriolanus Snow i wallgofrwydd oherwydd The Hunger Games a ffyrdd erchyll The Capitol. Mae'n dilyn yn driw i greulondeb gwreiddiol y gemau newyn a ffyrdd erchyll Panem. Gyda Snow yn cyfarfod, a dod yn fentor i ferch o District 12 sydd, ynghyd â'r rhan fwyaf o gystadleuwyr, am naill ai goroesi neu adael y Gemau ond nid yw'n dod i glo yn fanna. Yn debyg i'r drioleg wreiddiol mae'n symud i ffwrdd o'r gemau yn unig ac i fyd Panem wrth archwilio'r ardaloedd. Dysgwn am fywydau’r bobl mewn ardaloedd ond hefyd am yr ymdrechion y bydden nhw'n mynd iddyn nhw er mwyn gwaredu ar reolaeth y Capitols. Caiff Snow ei gyflwyno fel myfyriwr ysgol arferol o'r Capitol sydd am fynd i'r brifysgol, a gall nifer o bobl deimlo y gallent fod wedi wynebu rhywbeth tebyg. Ac ond ar ddechrau'r ffilm gallwn ni gydymdeimlo’n barod.
Trwy gydol y ffilm fe welwn ychydig elfennau o wir liwiau Snow ac yn y pendraw gwelwn ef yn ei gyflwr meddwl byrbwyll a gwallgof ar ôl i erchyllterau Panem ei ddistrywio mewn ffordd na welais yn aml mewn ffilmiau eraill. Wrth wylio'r ffilm yma sylweddolais fod ganddi deimlad hynod gyfarwydd a byddwn yn ei chymharu â ffilmiau megis Star Wars Revenge of the Sith ble ar ddechrau'r ffilm gwelwn gymeriad cyffredin yn byw ei fywyd ond erbyn y diwedd gwelwn ei hunan ddrwg ar ôl cael ei drin gan ffigwr awdurdod uwch. Mae'r ffigur hwn yn defnyddio pethau y mae eu heisiau a'u hangen yn ei erbyn ac mae'r cyfan yn cael ei achosi gan y person y mae'n ei garu. Nid yw'r ffilm hon yn fformiwla newydd yn union ond nid oedd llawer o le i syrpreisys enfawr gan fod pawb sydd wedi gweld y Hunger Games gwreiddiol yn gwybod pwy yw Snow. Byddai'r rhan fwyaf yn gwybod y byddai'n syrthio i ddrwg yn y pen draw. Mae gan y cymeriadau oll nodweddion unigryw iawn ac maent yn dangos pob un o'u profiadau yn Panem yn y ffordd y maent yn ymddwyn pan gânt eu gorfodi i wneud pethau na fyddent fel arall yn eu gwneud.
Fe wnes i fwynhau’r ffilm hon yn fawr ac roedd ei gwylio yn gymysgedd o emosiwn ac adrodd straeon gwych. Mae hyn hefyd yn rhaghanes fel y gall unrhyw un, p'un a ydynt wedi gweld y rhai gwreiddiol ai peidio, wylio a gwerthfawrogi.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.