Y Sioe Berffaith ar Gyfer Cefnogwyr Roc!

Ymunwch â ni yma yn y Theatr Torch wrth i ni ddathlu artistiaid roc gwefreiddiol gydag un o'r bandiau gorau erioed! Ar nos Iau 30 Ionawr, bydd cefnogwyr roc yn cael trît arbennig wrth i The History of Rock daro’r llwyfan.

Bydd The History of Rock yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith gyffrous drwy stori ryfeddol roc – ond y tro hwn, Led Zeppelin fydd dan y chwyddwydr, wrth iddynt arwain y cyngerdd roc gorau a welodd y byd erioed.

Mae'r sioe hon, gan Soul Street Productions, a aned oherwydd angerdd am gerddoriaeth a theatr, yn rhywbeth y mae'n rhaid i bawb sy'n dilyn roc ei gweld! Profwch y gerddoriaeth eiconig sy’n cael ail fywyd gan fand eithriadol sy'n cynnwys rhai o'r cerddorion a pherfformwyr gorau o bedwar ban byd – yn cynnwys traciau Queen, The Who, AC DC, Guns n’ Roses a Black Sabbath a llawer mwy.

Wedi eu lleoli tu allan i Lundain, mae Soul Street Productions yn gweithio gyda rhai o gerddion mwyaf talentog y ddinas gan ddod â rhai o hoff genres y genedl yn fyw, ar lwyfan ledled y wlad ar eu teithiau o amgylch y DU, a’u hunig ymweliad â Sir Benfro. Felly, dewch i Theatr Torch a phrofwch sioe roc unigryw gyda THE HISTORY OF ROCK!

Bydd THE HISTORY OF ROCK yn cael ei pherffomrio ar lwyfan Theatr Torch ar nos Iau 30 Ionawr am 7.30pm. Pris tocyn: £26. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.