The Garfield Movie: Adolygiad gan Riley Barn

Cafodd ein hadolygydd, Riley Barn, amser gwych yn gwylio The Garfield Movie yma yn y Torch. Os ydych chi'n hoffi cathod, llawer o gyffro ac antur, tretiwch eich hun i'r ffilm yma yn Sir Benfro.

Mae Garfield, y gath ddiog sy'n casáu dydd Llun, yn cael ei herwgipio ynghyd â'i gydymaith ci Odie. Mae’r ddau yn cael eu achub yn wyrthiol gan ffigwr y mae Garfield yn ei gofio o’r gorffennol, tad Garfield Vic. Ar ôl aduniad llawn tyndra maen nhw’n cael eu dal eto a’u gorfodi i ddwyn llefrith gan gwmni llaeth “bach” teuluol. Nawr maen nhw i gyd yn cael eu gorfodi i gydweithio i ddwyn ar ran hen gydweithiwr i Vic nad oes modd ymddiried ynddo.

Rhaid i mi gyfaddef nad wyf wedi gwylio llawer o'r sioeau teledu clasurol Garfield felly roedd y gath oren yn newydd i mi, ond rwy'n meddwl ei fod wedi rhoi'r cyfle i mi edrych ar y ffilm hon gyda llygaid ffres a rhaid dweud fy mod yn meddwl bod hyn yn ffilm wych! Yn llawn cyffro gwffi a chomedi teuluol mae'n wylio gwych i unrhyw un, waeth beth fo'u hoedran. Roedd y rhan fwyaf o'r jôcs yn taro deuddeg ac roeddwn i wrth fy modd gyda rhai o'r golygfeydd difrifol ond hwyliog. Mae'n gyfuniad anhygoel o bopeth rwy'n gwybod am Garfield. Mae Vic (wedi'i leisio gan Samuel L Jackson) yn ceisio tyfu i fod y tad y mae Garfield ei angen tra bod Garfield (a leisiwyd gan Chris Pratt) yn ei chael hi'n anodd credu bod Vic wir eisiau newid ar ôl iddo adael ei fab. Mae hyn yn arwain at eiliadau gwirioneddol drist ac emosiynol rhwng y ddau wrth iddyn nhw weithio i geisio trwsio popeth gan gynnwys eu perthynas.

Nawr, hoffwn fynd i'r afael â'r agweddau o’r ffilmiau eraill nad oedd llawer o bobl yn eu hoffi. Mae Chris Pratt wedi bod yn lleisio nifer o gymeriadau enwog a llawer o bobl ddim yn meddwl ei fod yn dda. Maen nhw'n credu y dylid “hurio actor enwog er mwyn gwneud ffilm dda” ond rydw i wir yn meddwl bod Chris Pratt wedi gwneud gwaith anhygoel yn lleisio Garfield. Mewn rhyw ffordd mae'n swnio fel ei hun ond hefyd yn ddieithr ac roeddwn i'n meddwl bod hyn yn ddiddorol iawn. Roedd yna bethau fodd bynnag a oedd yn ddiwerth yn fy marn i. Ychwanegwyd cymeriadau a llinellau plot cyfan a oedd yn teimlo mor ddiystyr ac nad oedd yn ychwanegu dim at y stori. Un rhwystr ychwanegol, dim cwestiwn moesol, dim ond cyfarfod bach a rhyfedd braidd yn agos at ddiwedd y ffilm. Rwy'n teimlo o leiaf y dylai fod ychydig mwy o esblygiad gyda'r straeon. Ar wahân i hynny, dw i'n meddwl bod y ffilm yn wych! Un nodyn olaf, bydd unrhyw un sydd wedi gweld Top Gun yn mwynhau rhannau o'r ffilm hon.

Rwy'n argymell y ffilm hon yn fawr ar gyfer profiad teuluol i blant ac oedolion.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.