The Fureys yn y Torch

Ydych chi'n hoff o chwedlau cerddoriaeth a châneuon Gwyddelig? Bydd The FUREYS, sy’n enwog am eu caneuon poblogaidd ‘I Will Love You’, ‘When You Were Sweet 16’, ‘The Green Fields of France’, ‘The Old Man’, ‘Red Rose Café’, ‘From Clare to Here’, ‘Her Father Didn’t Like Me Anyway’, ‘Leaving Nancy’, ‘Steal Away’ a llawer o rai eraill, yn heidio am lwyfan Theatr Torch ym mis Mawrth.

Gadawodd yr hynaf o’r brodyr, Eddie Furey ei gartref ym 1966 a theithiodd i’r Alban ar adeg yr adfywiad gwerin mawr lle cyfarfu â’i frawd Finbar a rhannu llety gyda’r cantorion gwerin anhysbys ar y pryd Billy Connolly, Gerry Rafferty, Tam Harvey ac Alex Campbell.

Ym 1972, ysgrifennodd Gerry Rafferty ‘Her father didn’t like me anyway’ ar gyfer Eddie ac fe wnaeth cyflwynydd BBC Radio 1, y diweddar John Peel, y gân yn sengl y flwyddyn. Maent yn arbennig o falch o’u llwyddiannau yn siartiau’r DU gyda chaneuon fel ‘I Will Love You’ a ‘When You Were Sweet Sixteen,’ a helpodd yn eu tro i ddod â cherddoriaeth werin a thraddodiadol Iwerddon i gynulleidfa gwbl newydd. Gwnaeth y band eu perfformiad cyntaf Top of the Pops ym 1981.

Mae Eddie Furey yn cofio sut "mae llawer o gerddorion wedi dweud wrthym ein bod wedi dylanwadu arnyn nhw ar ôl clywed record o gasgliad eu rhieni neu mam-gus a thad-cus". Mae Dave Stewart o The Eurythmics wedi rhoi’r clod i Eddie am ddysgu ei gordiau cyntaf ar y gitâr tra’n dal yn ei arddegau. Byddai Eddie yn dychwelyd y ganmoliaeth trwy ymuno â Dave ar y llwyfan ym Mharis am eitem gerddorol yn ystod priodas ei gyfaill â Siobhan Fahey o Bananarama.

Mae eu caneuon emosiynol yn ysgogi llawer o emosiynau, dagrau a chwerthin, tristwch a llawenydd.

Mae tocynnau ar gyfer The Fureys ar nos Iau 27 Mawrth am 7.30pm yn Theatr Torch yn £26.00. Ewch i’r wefan am fwy o fanylion www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.