Gwaredwch y llwch oddi ar eich sgidiau dawnsio llinell, gafaelwch yn eich partneriaid a dewch draw i'r Torch!

Howdy Bobl! Yee-haw! Mae'n mynd i fod yn fôr o hetiau cowboi pan fydd The BIG Country Music Show yn teithio i Aberdaugleddau fis Gorffennaf eleni! Gan y band gwobrwyedig a ddaeth â'r cynhyrchiad teithiol poblogaidd 'One Night in Dublin' i chi, mae'r sioe boblogaidd hon wedi bod yn syfrdanu cynulleidfaoedd ac yn derbyn adolygiadau rhagorol wrth iddi fynd ar daith ledled y DU.

Bydd y band saith darn byw llawn gyda chantorion gwrywaidd a benywaidd, harmonïau syfrdanol, ffidil, pedal dur a banjo yn diddanu cynulleidfaoedd gyda strafagansa o ddwy awr o ganu gwerin glasurol yn llawn clapio dwylo a tharo traed gyda chaneuon clasurol yr enwogion megis Kenny Rogers, Dolly Parton, Shania Twain, Garth Brooks, Johnny Cash, Willie Nelson, Tammy Wynette a The Eagles.

Yn cynnwys het 10 galwyn yn llawn caneuon poblogaidd canu gwlad gwych gan gynnwys The Gambler, Take it Easy, Man! I Feel Like a Woman, Ring of Fire, The Devil Went Down to Georgia a nifer o rai eraill – beth sydd ddim i’w hoffi?

Os ydych chi'n mwynhau ychydig o ganu gwerin clasurol yna beth am roi'r waredu’r llwch oddi ar eich esgidiau dawnsio llinell, gafael yn eich partneriaid a heidio i lawr i Theatr Torch ddydd Iau 4 Gorffennaf?!

Bydd The Big Country Music Show yn cael ei phefformio yn Theatr Torch ar nos Iau 4 Gorffennaf am 7.30pm. Pris tocyn: £23.50. I archebu eich tocyn neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.