Rhamant Comedi Antur Moroedd De Prydain Yn Taro Llwyfan y Torch

Bydd myfyrwyr o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, Caerfyrddin yn perfformio The Admirable Crichton gan J.M.Barrie mewn dau leoliad ar draws Sir Benfro a Chaerfyrddin yr wythnos hon. Ar nos Fercher 15 Mai, gallwch weld y ddrama, wedi ei hysgrifennu ym 1902, ar lwyfan Theatr Torch, wedi ei chyfarwyddo gan William Kingshott a Chyfarwyddwr Artistig gwobrwyedig Theatr Torch ei hun, Chelsey Gillard.

Cyflwynir y gomedi lawen hon gan fyfyrwyr trydedd flwyddyn y cyrsiau Actio a Dylunio a Chynhyrchu yn y Brifysgol. Mae’r dychan clasurol, yn gwneud hwyl am ben moesau Prydeinig ac yn gofyn beth fydd yn digwydd os bydd y drefn “naturiol” yn cael ei throi wyneb i waered. Mae aelodau o deulu aristocrataidd yn cael eu hunain wedi’u llongddryllio ar ynys anial gyda dim ond un pâr o esgidiau rhyngddyn nhw. Mae’n rhaid i rywun gymryd yr awenau – ai’r cynhyrfus Lord Loam neu eu bwtler ffyddlon Crichton?

Dywedodd y Cyfarwyddwr Artistig Chesley Gillard: “Rwyf wrth fy modd gyda gwaith J.M. Barrie a phleser pur yw cael ymarfer y ddrama hon gyda myfyrwyr actio a chynhyrchu trydedd flwyddyn y Brifysgol. Mae'r sioe yn hynod o ffraeth a hwyliog. Mae’n gwneud llawer o hwyl gyda’r syniadau am ddull Prydeinig ac rwy’n siŵr y bydd pob un ohonoch yn chwerthin gyda’r myfyrwyr hynod dalentog hyn.”

Dywedodd Taylor Dyderski ac Alyanna Arzente, sy’n fyfyrwyr yn y Brifysgol, y bydd y profiadau y maent yn eu cael ar y cynhyrchiad hwn yn eu helpu i baratoi ar gyfer eu gyrfaoedd yn y diwydiant yn y dyfodol.

“Fel myfyrwyr dylunio a chynhyrchu set, rydym yn dysgu llawer am sut i addasu setiau, goleuadau, a gwisgoedd fel y gallwn eu tywys o amgylch gwahanol leoliadau. Golyga hyn gweithio o fewn amgylcheddau gwahanol a sicrhau ein bod yn gweithio'n gynaliadwy. Rydym yn gweithio ochr yn ochr â Chelsey a William, i gyflawni eu gweledigaethau creadigol. O’r cyfle hwn, rydym yn dysgu i safon uchel sut i fod yn ymarferwyr yn y diwydiant.”

Wrth chwarae rhan Crichton, mae Celeste Turnbull wedi mwynhau plymio i'r rôl.

"Gan ei fod yn ddarn o gyfnod, bu'n rhaid i ni fyfyrwyr actio ddysgu'r rheolau moesau penodol a ddisgwylid yn yr amser hwnnw. Mae gwisgo'r gwisgoedd cyfnod-gywir anhygoel wedi ein galluogi i ddatblygu'r broses o gorfforoli ein cymeriadau a threiddio i'w meddyliau.

“Braf yw cael edrych yn ôl ar ddramâu cyfnod a dysgu ffurf wahanol ar ein hiaith na fyddem o reidrwydd yn ystyried ei chynnwys yn ein repertoire,” esboniodd Celeste.

Rhybudd cynnwys: gall gynnwys goleuadau sy'n fflachio a synau uchel.

Bydd The Admirable Crichton yn cael ei pherfformio ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Mercher 15 Mai am 7pm. Pris tocyn: £8 / £5 consesiwn. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma. Gallwch hefyd weld y cynhyrchiad yn Stiwdio Fach, Yr Egin, Caerfyrddin ar nos Iau 17 Mai am 7pm a dydd Gwener 18 Mai am 2pm a 7pm. I archebu eich tocynnau ar gyfer sioeau Caerfyrddin, cysylltwch gyda (s.atkinson@uwtsd.ac.uk)

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.