SUPER MARIO BROS. MOVIE YN 'TARO' AR Y SGRIN FAWR

Mae gemau Mario wedi bod yn boblogaidd mewn nifer o gartrefi gyda llawer o oedolion a phlant wedi chwarae'r gemau amrywiol dros y degawdau. Y cymeriadau Mario a Luigi yn unigryw am eu oferôls gwyrdd a choch enwog ac yn dod yn arwyr am achub y Dywysoges Peach o afael Bowser drwg.

Mae cyflwyniad y ffilm wedi'i osod yng nghefnlen Brooklyn, Efrog Newydd sy'n esbonio hanes Mario a Luigi - y ddau wedi gadael eu cyflogwr i sefydlu eu busnes plymio eu hunain. Heb lawer o gefnogaeth gan eu teulu, a’u cyn-fos yn gwbl gas iddyn nhw, mae Mario’n dechrau ar ei genhadaeth i lwyddo ond yn y diwedd yn cael ei gludo i fyd lliwgar y Deyrnas Madarch ac felly’n dechrau’r ymgais i achub y Deyrnas rhag gafael ddrwg Bowser.

Chris Pratt sy'n lleisio cymeriad Mario ac yn ei wneud yn unigryw. Rydych chi'n teimlo'n flin iddo gael ei ddiflasu lawer tro. Mae Charlie Day fel Luigi yn ofnus ac yn edrych i fyny at ei frawd. Roedd y ddau actor wir yn dangos perthynas brawdol agos Mario a Luigi trwy gydol y ffilm. Rwy'n meddwl bod Anya Taylor-Joy wedi gwneud gwaith da o actio Peach oherwydd ei bod yn fenyw ifanc gref, benderfynol, yn sefyll dros yr hyn y credai ynddo i achub ei theyrnas. Roedd Keegan Michael Key fel Toad yn fywiog, yn animeiddiedig, yn ddoniol ac roedd ganddo lawer o egni. Er hynny, byddwn wedi hoffi gweld a chlywed mwy o Toad drwy gydol y ffilm felly gallai fod mwy o gomedi trwyddi. Mae Seth Rogan fel Donkey Kong yn gymeriad digon cryf ond hoffus. Roedd Jack Black yn wych fel Bowser ond dwi'n meddwl y gallai fod wedi bod ychydig yn fwy brawychus (ond roedd ei ganu yn wych ... fel yn yr Ysgol Roc!).

Ond!!! Ble oedd Yoshi?

Roedd byd lliwgar y gemau yn anhygoel ar bob cam a gwych oedd gweld Mario Kart, Mario 3D World, Luigi’s Mansion, Super Mario Odessy a Donkey Kong oll yn cael eu cynnwys yn y ffilm. Roedd cwrs rhwystr y Dywysoges Peach mor cŵl ac yn union fel gêm Super Mario Bros ac roedd yn ddoniol gweld Mario yn ceisio ei gwblhau gyda'i ymdrechion niferus, rhywbeth rydw i hefyd wedi'i wneud wrth chwarae'r gemau Mario! Ynghyd â cherddoriaeth ac effeithiau sain nodweddiadol Mario, teimlais fod ychwanegu’r gerddoriaeth bop a roc yn gwella’r golygfeydd yn fawr, Thunderstruck, Holding Out For A Hero, Mr Blue Sky a Take On Me.

Mae neges y ffilm hon yn glir o'r dechrau, er bod Mario yn cael ei ddiflasu lawrr gwaith, nid yw byth yn rhoi'r gorau iddi. Felly peidiwch byth â rhoi'r gorau i'ch gobeithion a'ch breuddwydion a byddwch yn llwyddo.

Mae'r ffilm hon yn PG ond mae'n wirioneddol yn ffilm i bawb, yn enwedig cefnogwyr brwd Mario. Os ydych chi'n caru gemau Mario, yna mae'n bendant yn werth gwylio a yn dod yn fyw ac yn cael eu hymgorffori mewn un ffilm. Ffrwydrad o liw ar y sgrin.

Sgôr allan o 10

Byddwn yn rhoi 8/10 i'r ffilm hon gan bod modd ei gwella gyda mwy o linellau comedi.

Adolygwyd gan Cailtyn Sanders-Swales, 11 oed.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.