MWYNHAU SINEMA MACHLUD NOS FERCHER YMA

Mae Theatr y Torch mewn partneriaeth â Phorthladd Aberdaugleddau yn falch o gyhoeddi dangosiad Sinema Machlud awyr agored arbennig iawn o Mamma Mia! Here we Go Again nos Fercher hon ar gyfer ein GIG a'n Gweithwyr Gofal lleol.

Bydd y digwyddiad, a gynhelir yng Nghei Mecryll ar lannau Aberdaugleddau, yn rhad ac am ddim i'r rhai sydd wedi rhoi cymaint dros y 18 mis diwethaf fel diolch gan Borthladd Aberdaugleddau a'r Torch.

Meddai Natalie Hunt, Cydlynydd Digwyddiadau a Gweithgareddau Porthladd Aberdaugleddau:

“Rydym yn falch iawn o allu cyd-weithio â Theatr y Torch i gyflwyno'r digwyddiad hwn ar gyfer staff y GIG a'u ffrindiau a'u teulu. Bydd yn wych gweld cymaint o bobl yn mwynhau Sinema Machlud yng Nglannau Aberdaugleddau unwaith eto.”

Mae comedi cerddorol 2018, hynod boblogaidd, yn mynd â chi yn ôl i Ynys hudolus Gwlad Roeg Kalokairi, ddeng mlynedd ar ôl i Ffilm Mamma Mia! gael ei pherfformio am y tro cyntaf. Mae Sophie (Amanda Seyfried) bellach yn feichiog, ac fel ei mam Donna (Meryl Streep), bydd angen iddi fentro. Mae cast gwreiddiol y ffilm yn dychwelyd, gydag ychwanegiadau newydd gan gynnwys Lily James fel Donna ifanc, Andy Garcia ac enillydd Oscar® Cher. Fel gyda Mamma Mia!, Mamma Mia! Here We Go Again mae iddi drac sain anhygoel yn seiliedig ar ganeuon Abba, bydd yn eich gadael yn canu a dawnsio ymhell i'r nos.

Dangosiad awyr agored Mamma Mia! Here We Go Again yw'r ail ddigwyddiad y mae'r Torch wedi'i gynnal ar gyfer gweithwyr y GIG yn lleol a Gweithwyr Gofal Sir Benfro, yn dilyn ymlaen o ddangosiad Mamma Mia! yng Nghastell Penfro ym mis Awst. Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer y digwyddiad mewn llai na 24 awr ac mae disgwyl i docynnau fynd yn gyflym ar gyfer y digwyddiad ddydd Mercher hwn.

Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch, Ben Lloyd:

“Mae'r Torch wedi ceisio cefnogi a hyrwyddo ein holl weithwyr allweddol yn ystod y 18 mis diwethaf, o weithgynhyrchu a dosbarthu tarianau wyneb ar gyfer gweithwyr rheng flaen i greu adnoddau drama ar-lein am ddim at ddefnydd athrawon sy'n cyflwyno dysgu o bell. Rydym yn benderfynol o ddangos ein gwerthfawrogiad, yn arbennig am aberthau’r gofalwyr a staff y GIG yr ydym oll wedi dibynnu arnynt i’n cludo drwy’r pandemig, ac rydym wrth ein bodd cael cydweithio â Glan y Dŵr Aberdaugleddau i gyflwyno’r diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau 'diolch' o'r Torch."

Rhaid archebu tocynnau o flaen llaw ar gyfer Mamma Mia! Here We Go Again a fydd yn cael ei dangos ar ddydd Mercher 15 Medi. Mae modd archebu eich tocynnau o wefan Theatr y Torch yma a rhaid cyflwyno ID GIG dilys neu gerdyn ID Gofal Sylfaenol ar y noson gyda thystiolaeth o’ch archeb.

Bydd y gatiau'n agor o 7pm a bydd y digwyddiad yn mynd ymlaen hyd yn oed os bydd hi'n glawio. Bydd Mamma Mia! Here We Go Again yn dechrau cyn gynted ag y bydd golau yn caniatáu. Anogir pawb sydd wedi archebu lle i ddod â chadair, blanced a dillad gwrth-ddwr. I gael T + A’au’n llawn, ewch i wefan Theatr y Torch.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.