THEATR Y TORCH YN CYFLWYNO SINEMA MACHLUD 2023
Ers 2015, mae Sinema Machlud Theatr y Torch wedi bod yn diddanu miloedd o bobl o bob oed wrth iddi fynd â’i sgrin fawr i rai o’n lleoliadau a’n tirnodau harddaf ar draws y sir. Nid yw eleni’n eithriad ac mae’n bleser gennym gyhoeddi rhaglen wych o ffilmiau a pharhau â’n hymrwymiad i fynediad a chynwysoldeb i bawb ledled Sir Benfro.
O Faes Gwersylla Fferm Dewslake i Gastell Cydweli, bydd Sinema Machlud, y dangosiadau ffilm awyr agored yn teithio i 12 lleoliad gwahanol o ddydd Gwener 28 Gorffennaf hyd at ddydd Sadwrn 2 Medi gan ddangos rhai o hoff ffilmiau mawr fel The Greatest Showman i Matilda the Musical.
Fel sefydliad dielw, uchelgais Theatr y Torch gyda Sinema Machlud, mewn partneriaeth â phartneriaid lleoliadau ar draws Sir Benfro, yw cyrraedd cynulleidfaoedd newydd, gan fynd â’n hoffer uwch-dechnoleg ar daith i sicrhau bod cannoedd o bobl yn gallu mwynhau noson fendigedig o adloniant, yn agos gartref ac yn hygyrch i bawb.
Chelsey Gillard, Cyfarwyddwyr Artistig Theatr y Torch sy’n esbonio mwy:
“Rydym wrth ein bodd i fod allan, ar draws Sir Benfro a thu hwnt, gyda Sinema Machlud eto yr haf hwn. Mae llwyth o ddanteithion sinematig i’r teulu cyfan mewn amrywiaeth o leoliadau eiconig ar draws gorllewin Cymru; o gestyll, i gaeau blodau'r haul, i gaeau rygbi a pharciau gwledig. Ni allwn aros i fod ar y ffordd eto yn gweithio mewn partneriaeth â chymaint o leoliadau a sefydliadau anhygoel i sicrhau ein bod yn rhoi croeso cynnes i bawb ac yn creu profiadau bythgofiadwy i gymunedau ar draws y sir.”
Mae’r profiad sinema awyr agored hoffus yn boblogaidd gydag oedolion a phlant fel ei gilydd ac yn rhoi profiad hudolus i wylwyr o dan y sêr. Ac nid yn unig mae’n gyfle i wylio’ch hoff ffilm, ond gallwch hefyd weld beth sydd gan bob lleoliad i’w gynnig ar noson hwyr o haf.
Bydd rhai lleoliadau hefyd yn cynnig cerddoriaeth, stondinau bwyd, caffi a bar i'w mwynhau cyn ac yn ystod y ffilm. Mae pob lleoliad yn wahanol a dylid cysylltu â nhw yn unigol i weld beth maen nhw'n ei gynnig.
Bydd Sinema Machlud yn mynd yn ei flaen os bydd hi'n bwrw glaw ar y noson a bydd ond yn cael ei ganslo os bydd gennym wyntoedd cryf iawn. Fe'ch cynghorir i fynd â blanced gynnes a chadair. Mae hygyrchedd/cyfleusterau cadair olwyn ar gyfer y rhai ag anabledd ar gael yn y rhan fwyaf o leoliadau ond fe’ch cynghorir i gadarnhau gyda phob lle.
I gael rhagor o wybodaeth neu i archebu eich tocynnau, cliciwch yma neu ffoniwch ein tîm cyfeillgar yn y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267. Gellir prynu tocynnau hefyd ym mhob lleoliad ar noson y dangosiad.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.