Eich Hoff Ffilmiau Clasurol ar y Sgrin Fawr yn yr Awyr Agored!

Mae’r tywydd yn poethi, mae’r gwair yn wyrddach a gall hynny olygu un peth yn unig … mae’n Dymor Sinema Machlud Haul Theatr Torch ac mae ‘na ffilmiau gwych gyda ni ar eich cyfer!

Ers bron i 10 mlynedd, mae Theatr Torch wedi mentro allan i’r gymuned i ddod â’ch hoff ffilmiau i chi ar y sgrin fawr mewn lleoliadau gwych o amgylch Sir Benfro, ac nid yw eleni’n eithriad.

Gyda naw lleoliad awyr agored yn frith o amgylch y sir yn dangos y clasuron, gyda chefnogaeth Dragon LNG a Pure West Radio fel ein partner cyfryngau, mae profiad Sinema Machlud Haul yn un na ddylid ei golli.

Mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr Torch sy’n esbonio ymhellach:

“Does dim byd tebyg na gweld eich hoff ffilm ar y sgrin fawr ac mae Sinema Machlud Haul yn mynd â hynny gam ymhellach i greu’r profiad ffilm eithaf. Wrth i’r haul fachlud ar ddiwedd diwrnod heulog o haf (gobeithio), cydiwch yn eich blancedi picnic ac ymunwch â ni mewn rhai lleoliadau eiconig yn Sir Benfro am noson fythgofiadwy o adloniant.”

Mae tocynnau eisoes yn gwerthu’n gyflym ar gyfer rhai digwyddiadau, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cymryd mantais o’n gostyngiad archebu ymlaen llaw.

Bydd Yr Harbwr yn Llanusyllt yn dangos tair ffilm dros yr haf - Mamma Mia! Here We Go Again ar ddydd Gwener 26 Gorffennaf, Pirates of the Caribbean: The Curse of the Black Pearl ar ddydd Mercher 31 Gorffennaf a The Greatest Showman ddydd Gwener 9 Awst. Bydd Barbie yn cael ei dangos ar Stad Parc Slebets ddydd Gwener 2 Awst; Bohemian Rhapsody yn Nhŵr y Felin, Tyddewi ddydd Sadwrn 10 Awst. Bydd Top Gun: Maverick yn cael ei ddangos yn Fferm Blodau'r Haul Sir Benfro, Trefdraeth ddydd Sadwrn 24 Awst. Sgrinio i'w gadarnhau yn Neuadd Gymunedol y Garn ddydd Sul 25 Awst.

Bydd y tymor sinema awyr agored yn dod i ben gyda dangosiad yng Nghastell Penfro o Harry Potter and the Philosopher’s Stone ar ddydd Gwener 30 Awst a Dirty Dancing ar ddydd Sadwrn 31 Awst.

Ni all Jon Williams, Rheolwr Cyffredinol Castell Penfro aros i groesawu’r gwylwyr i’r lleoliad hanesyddol hwn.

“Mae tîm Castell Penfro unwaith eto yn edrych ymlaen at weithio gyda’n ffrindiau yn Theatr Torch i greu dwy noson gofiadwy o haf gyda rhywfaint o hud a lledrith gan fasnachfraint Harry Potter a’r Dirty Dancing bythol, dwy ffilm wych mewn man ysblennydd.” “

Mae’r gatiau ym mhob lleoliad yn agor am 7pm gyda phrisiau tocynnau’n £10 (archebu ymlaen llaw) a £12 wrth y gât. Bydd pob ffilm yn dechrau pan fydd lefel y golau yn caniatáu. Mae bwyd a diod ar gael yn y rhan fwyaf o leoliadau. Fe'ch cynghorir i ddod â dillad cynnes a chadair.

I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.