Haf Llawn Hwyl Ac Antur I Bawb Yn Theatr Torch
Yr haf hwn, mae Theatr Torch yn eich gwahodd i gymryd rhan a bod yn greadigol. Gydag actio, canu mewn cȏr ac ysgrifennu creadigol ar gael, mae gan y Torch rywbeth at ddant pawb.
Tim Howe, Uwch Reolwr Ieuenctid a Chymuned Theatr Torch sy’n esbonio rhagor:
“Rydym yn hynod falch o fod yn cynnig ystod o weithgareddau ar gyfer ein cymuned. Rydym yn gwybod bod cael y cyfle i fynegi’ch hun yn artistig yn rheolaidd a chael cysylltiadau â phobl eraill yn cynnig manteision mawr iawn i iechyd meddwl a lles pobl. O fis Mai hyd at fis Medi rydym yn darparu ystod o gyfleoedd i bob oed fod yn greadigol – a’r peth gorau am y cyfan yw nad oes angen unrhyw brofiad arnoch!”
Yr haf hwn, cynhyrchiad Theatr Ieuenctid y Torch yw Wind in the Willows. Yn ffefryn gan bob cenhedlaeth, bydd cymeriadau hoffus Toad, Badger, Ratty a Mole yn cymryd lle amlwg ar lwyfan y Torch ddiwedd mis Gorffennaf gyda chast o 40 o bobl ifanc rhwng 7 a 18 oed yn cymryd rhan yn y sioe wych hon.
Nid oes angen clyweliadau i ymuno â Theatr Ieuenctid y Torch, a gall pob aelod fod yn rhan o'r cynhyrchiad anhygoel hwn. Gyda phedwar grŵp oedran-briodol yn cyfarfod yn ystod yr wythnos, dewch i unrhyw sesiwn sy'n dechrau o 1 Mai. Y ffi tymhorol (gan gynnwys y cynhyrchiad) yw £90.
Ond nid yw ein gwaith gyda phobl ifanc yn dod i ben yn y fan honno. Mae gan Ysgol Haf y Theatr Ieuenctid, weithgareddau ar gyfer pawb.
Cynhelir Amazing Adventurers ar gyfer Blynyddoedd 3 i 6 (oed 7 -11) o ddydd Llun 5 i ddydd Gwener 9 Awst gyda sesiynau dyddiol o 10am tan 3pm, ac fel yr esbonia Tim, mae’n mynd i fod yn gyfnod diddorol:
“Mae rhywun wedi camosod diwedd ein drama yma yn Theatr Torch! Trwy sesiynau ar chwarae creadigol ac adrodd straeon bydd plant, sy’n cymryd rhan yn Amazing Adventurers, yn ein helpu i ddod o hyd i’n diweddglo a chreu eu stori antur wreiddiol eu hunain. Bydd y sesiynau’n gweld y plant yn gweithio gyda’i gilydd, yn greadigol iawn, yn dysgu am y theatr ac yn gwneud ffrindiau newydd.”
Ar gyfer pobl ifanc hŷn ym Mlwyddyn 7 i Flwyddyn 13 (11 – 18 oed) bydd Loud and Clear yn digwydd o ddydd Llun 12 i ddydd Gwener 16 Awst gyda sesiynau dyddiol o 10am i 4pm.
“Rydym yn gwahodd eich pobl ifanc i ymuno â’n sesiynau ysgrifennu creadigol a sgiliau perfformio. Rydyn ni angen iddyn nhw greu drama newydd sbon ar gyfer byd dychmygol y dyfodol sydd wedi gwahardd theatrau! Ydych chi'n adnabod person ifanc sy'n barod am yr her?" meddai Tim, sy'n frwd am ddechrau.
Y ffi am gymryd rhan yn Amazing Adventurers a Loud and Clear fydd £75 (gyda gostyngiad ar gyfer brawd neu chwaer yn £65).
Ac nid yw Theatr Torch wedi anghofio am yr oedolion ychwaith. Mae nosweithiau Iau ar gyfer Lleisiau'r Torch. Ymunwch ag Angharad Sanders am 90 munud o ganu llawen sy’n siŵr o wneud i chi deimlo’n ffantastig! Nid oes angen profiad, a chewch ddewis y caneuon rydych chi am eu canu. Yn agored i bawb 18+ oed a’r ffi tymhorol yw £50.
Meddai Angharad: “Rydym yn cael llawer o hwyl, rydym yn chwerthin llawer! Rydym yn gweithio ar dechneg lleisiol trwy sesiynau cynhesu hwyliog sydd wedi'u teilwra i gefnogi techneg a chryfder y llais. Yr aelodau eu hunain sy’n dewis y gerddoriaeth yr ydym yn ei chanu, a thra y darperir taflenni cerdd, nid oes angen darllen na chlyweliad. Cyfle yw hwn i ddod i ganu eich hoff gerddoriaeth mewn harmoni hyfryd gyda’r grŵp.”
Mae sesiynau Ysgrifennu Creadigol hynod boblogaidd y Torch hefyd yn parhau bob pythefnos o 9 Mai. Dyma lle mae’r tîm proffesiynol yn eich annog i godi beiro ac adrodd stori rydych chi wedi bod yn ysu ei gwneud ers amser. Bydd hefyd yn eich cyflwyno i'r technegau sy'n rhan o greu gwaith ar gyfer y llwyfan.
Yn olaf, mae’r Torch yn falch o gyhoeddi ei Hysgol Haf Wythnosol i Oedolion (yn rhedeg o 8 Awst tan 31 Awst).
Tim sy’n egluro: “Rydym yn chwilio am oedolion i ymuno â’n sesiynau wythnosol gyda’r nos ar draws mis Awst i adeiladu ar eu sgiliau creadigol. Byddwn yn edrych ar ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio. Daw’r cwrs byr gwych hwn i ben gyda pherfformiad yn arddangos y gwaith. Mae croeso i bob lefel o sgiliau o ddechreuwyr i’r rhai mwy profiadol.”
Mae Theatr Torch yn gwybod y gall cost fod yn rhwystr, ond mae aelodau staff bob amser yn hapus i drafod ffyrdd o wneud talu’r ffioedd yn haws i unrhyw un sydd am gael mynediad at ei darpariaethau, ac os oes ffordd yr hoffech chi ledaenu’r gost sy’n gweithio’n well i chi, cysylltwch â ni.
Gan ddod i glo, meddai Tim: “Ni allwn aros i groesawu hyd yn oed mwy ohonoch i Theatr Torch i gymryd rhan mewn gweithgareddau anhygoel.”
I archebu eich lle yn unrhyw un o’n sesiynau creadigol gwych ac ysbrydoledig, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.