Still Fully Charged - Sgwrs gyda Su Pollard

Oh eck! Mae ‘di bod yn 50 mlynedd... bydd Su Pollard yn dod i’r Torch ar nos Fercher 13 Tachwedd gyda’i sioe ‘Su Pollard: Still Fully Charged’. Aeth ein gohebydd Anwen i gael sgwrs gyda’r seren deledu i weld beth yw cynnwys ei sioe.

 

Mae Theatr Torch yn gyffrous iawn i'ch cael chi yma! Allwch chi ddweud wrth ein cynulleidfaoedd beth yw pwrpas eich sioe?

Wel, chi’n gwybod, allen ni ddim cwtogi'r cyfan a dweud y gwir, achos mae'n 50 mlynedd o showbiz yn y bôn, yn ceisio dangos y gwahanol bethau dw i wedi’u gwneud dros y blynyddoedd, fel trosleisio ar gyfer hysbysebion ac ati, sioeau cerdd, pantos a dramâu – a detholiad – o stwff teledu, a phopeth! Bydd ambell i gymeriad yn gwneud ymddangosiadau o bethau dw i wedi’u gwneud, yn amlwg o Hi-de-Hi!, You Rang, M'Lord?, Oh, Doctor Beeching!, pob math o gyfweliadau cynnar, rhai ohonyn nhw dwi' di anghofio yn llwyr! Felly, rydyn ni’n gobeithio ei fod yn fag nwyddau cyfan, mae ychydig fel cymysgedd dewis ‘n’ yn Woolworths - rydych chi’n rhoi eich llaw i mewn a gobeithio y byddwch chi’n cael losin hyfryd yn eich llaw.

O ble ddaeth yr ysbrydoliaeth ar gyfer eich sioe?

Mae'r sioe ei hun yn ganlyniad i daith wnes i o'r blaen, a oedd yn cael ei galw'n 'Su Pollard: Oh… And Another Thing!', ac roedd yn sôn am yr hyn oedd yn digwydd yn ystod y cyfnod clo ac ati, ac roeddwn i'n meddwl fy mod yn hoffi’r syniad o wneud sioe un person. Rwyf wedi gwneud un o'r blaen tua 40 mlynedd yn ôl. Rwy'n meddwl i mi ddilyn Quentin Crisp yn y Donmar Warehouse, ond roeddwn i'n hoff iawn o hynny ac felly meddyliais i fy hun, efallai y dylem gael ychydig o ddathliad a dweud y gwir, pam lai. Mae 50 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y maes yn syniad da i greu sioe, felly dyna sut y dechreuodd y cyfan. A chefais y teitl gan, mewn gwirionedd, wedi'i wefru'n llawn, chi'n gwybod pan fyddwch chi'n gwefru'ch ffôn ac mae'n mynd yn 'Fully charged', ac roeddwn i'n meddwl 'Ie, dyna ni, dyna fydd y teitl', felly dyna lle rydyn ni!

Disgrifiwch y sioe mewn tri gair ….

Dathlaid, atgofion a syrpreisis

Beth am eich taith – ble fyddwch chi’n mynd?

Rydyn ni ar draws y wlad. Gallwn i restru'r daith ond byddai hynny'n ddiflas! Y rhan fwyaf o’r lleoedd yn yr hydref rydw i wedi bod o’r blaen ac rydw i’n eu hoffi’n fawr ac, ar ôl y panto yn Darlington, mae gennym ni hyd yn oed mwy o ddyddiadau y flwyddyn nesaf. Y lle gorau i ddod o hyd i'r holl ddyddiadau yw'r wefan, www.supollardlive.com - felly ewch i gael cip olwg yno.

Ydych chi wedi ymweld â Theatr Torch yma yn Sir Benfro o'r blaen a beth yw eich gobeithion?

Na, dydw i erioed wedi ymweld â’r lle o'r blaen, dyma fydd y tro cyntaf ond rwy'n edrych ymlaen yn fawr. Rwy'n gobeithio ei bod hi'n theatr hardd ar gyfer y math yma o sioe, mae'n sioe agos-atoch felly mae'n hyfryd cael awditoriwm agos-atoch, gyda chynulleidfa frwd a chael aelodau staff gwych sy'n gwneud i chi deimlo'n gartrefol iawn, felly dyna’r cyfan y gallwch ddymuno mewn gwirionedd.

Beth ydych chi wedi bod yn ei wneud ers eich dyddiau Hi-de-Hi?

O wel, beth rydw i wedi bod yn ei wneud ... bydd yn rhaid i chi ddod i weld y sioe! Rydw i wedi bod yn gwneud pob math o bethau. Rydw i wedi bod yn ffodus iawn i wneud llawer o sioeau teledu a sioeau cerdd, a sioeau cwis yn ddiweddar, fel Would I Lie To You? sydd oll yn wych, ac rydw i newydd fod yn gwneud y math o bethau tebyg i'r hyn rydw i wedi'i wneud erioed, ond yn yr un modd, rydw i'n gweld eich bod chi'n tueddu i ddod ychydig yn fwy craff. Os nad wyf yn hoffi’r sgript, neu os teimlaf nad wyf yn hoffi’r cysyniad, neu na fyddaf yn gwneud cyfiawnder ag ef, byddaf yn mynd ‘Na, na, na, rwy’n meddwl y byddaf yn gadael hwn’. Rwy'n hoffi gwneud gwaith da a fydd yn cael ei gofio ag anwyldeb - fel Hi-de-Hi! i fod yn onest.

A yw'n well gennych theatr fyw neu deledu? A pham?

Oh wel does dim cystadleuaeth, mae'n rhaid iddi fod yn theatr fyw, a dywedaf wrthych pam - mae'r ymateb yn syth. Rwy'n gwybod gyda'r teledu, maen nhw'n ei ffilmio gyda chynulleidfa fyw gobeithio felly rydych chi'n cael ymateb ond weithiau maen nhw'n dweud 'Dydyn ni ddim yn hapus gyda'r darn yna,' (nid o reidrwydd yr actorion ond y cynhyrchwyr), 'gawn ni fynd am gais arall?' felly mae gennych y moethusrwydd o wneud pethau'n well nag oedd y tro cyntaf, nid ydych yn cael hynny o gwbl gyda sioe theatr ond, er bod y theatr yn fyw, ac weithiau gallwch wneud camgymeriadau, a’r gynulleidfa efallai ddim yn gwybod, rydych chi i gyd yn gwybod ond mae'n rhaid i chi barhau, ond rydw i'n hoffi ei uniondeb. Rydych chi'n gwneud rhywbeth ar y teledu, efallai na fydd y gynulleidfa'n ei weld am chwe mis, ac erbyn hynny mae'n debyg eich bod wedi anghofio eich bod wedi gwneud hynny, felly rwy'n credu, pan fyddwch chi'n ei wneud yn y fan a'r lle, mai dyna pryd rydych chi'n creu’r hud.

Pwy fydd yn mwynhau’r sioe?

Pwy fydd yn mwynhau fy sioe? Oh wel gobeithio bod unrhyw un sy’n hoffi chwerthin, yn hoffi edrych yn ôl, yn hoffi meddwl ‘O dw i’n cofio hynny, roedd hynny’n wych’, unrhyw un sy’n chwilfrydig, yn hen ac ifanc. Mae'n debyg na ddylech ddod â neb o dan ddwy oed, efallai nad yw hynny'n awgrym da, ond byddai unrhyw un o 12 ymlaen wrth ei fodd. Gobeithio y bydd rhywbeth at ddant pawb!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.