Strike: An Uncivil War yn Sinema’r Torch

Fe’i disgrifiwyd gan y Guardian fel “gwrthdaro creulon ar linellau streic piced y glowyr.” Strike: An Uncivil War yw rhaglen ddogfen nodwedd Daniel Gordon sy’n adrodd hanes Brwydr Orgreave. Hwn oedd y gwrthdaro mwyaf treisgar rhwng y Glowyr a’r Heddlu yn ystod Streic y Glowyr 1984/85 ym Mhrydain Fawr a gellir ei weld yn Sinema Theatr Torch, ddydd Mercher 3 Gorffennaf.

Y Streic a barodd am flwyddyn gyfan oedd yr anghydfod diwydiannol mwyaf treisgar a welodd Prydain erioed, a chan ddefnyddio tystiolaeth bersonol bwerus, dogfennau’r llywodraeth a oedd yn gudd yn flaenorol a thrysor o ddeunydd archif nas gwelwyd o’r blaen, mae Strike: An Uncivil War yn dilyn y digwyddiadau yn Orgreave, a gynhaliwyd ar 18 Mehefin 1984.

Dewch i’w gweld â’ch llygaid eich hun. Clywch am y straeon ac atgofion y bobl ar y rheng flaen anhygoel hon mewn amser. Holltodd cymunedau a’r genedl, ac mae’r chrychdonnau’n parhau i atseinio hyd heddiw.

Gan roi pedair seren i’r rhaglen ddogfen yr wythnos hon, daeth y Guardian i’r casgliad ei bod yn rhaglen werthfawr.

“Mae’n un o’r eiliadau casaf, hyllaf yn hanes Prydain ar ôl y rhyfel. Ers 1985, mae’r ddadl am danwydd ffosil wedi newid, wrth gwrs. Ond mae’n syfrdanol o hyd bod llywodraeth wedi cynllunio cau pyllau glo yn gyfan gwbl heb feddwl am, a chymryd dim diddordeb yn yr hyn a fyddai’n digwydd i’r cymunedau yr effeithiwyd arnyn nhw.”

Bydd Strike: An Uncivil War (15) yn cael ei sgrinio yn Theatr Torch ar ddydd Mercher 3 Gorffennaf am 5.15pm. Pris tocyn: Safonol: £7.50. Consesiwn: £7.00. O dan 16: £6.00. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.