STILL FLOATING
Bydd Still Floating - gan enillydd y Fringe First ddwywaith a’r awdur a pherfformiwr Cymraeg adnabyddus Shôn Dale-Jones, yn gwneud i chi chwerthin ar bethau a ddylai wneud i chi lefain! Mae’n newydd sbon, yn gomig calonogol ac yn adrodd straeon am gariad a gwytnwch. Bydd Still Floating yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 22 Mawrth.
Awgrymodd rhywun y dylai Shôn ail-wneud ei sioe lwyddiannus FLOATING (Barbican, Tŷ Opera Sydney) am Ynys Môn yn arnofio i ffwrdd o dir mawr Prydain, ond yn sicr nid dyma sydd ei angen ar y byd ar hyn o bryd. Nid 2023 yw 2006.
Wedi'i ddisgrifio fel "swynol, swreal, twym-galon ... darn o athrylith" gan The Scotsman, mae Shôn, cyfarwyddwr, perfformiwr ac awdur yn esbonio pam na ddylai fod yn cyflwyno'r sioe, ond rydyn ni'n darganfod bod mynd am yn ôl weithiau o gymorth i ni symud ymlaen. Mae hon yn stori ddoniol, ddyrchafol a theimladwy, sy’n gwneud i’r real a’r afreal ffitio gyda’i gilydd mewn un cyfanwaith syfrdanol.
Mae Shôn wedi cyflwyno ei waith ar hyd a lled y DU, Ewrop, UDA, Canada ac Awstralia ac mae’n fwyaf adnabyddus fel awdur/perfformiwr arobryn gyda’i greadigaeth gomig o Hugh Hughes - 'Story Of A Rabbit', '360', 'Stories From An Invisible Town' a 'Things I Forgot I Remembered'. Enillodd hefyd y Ddrama Gomedi Orau o ran Sgriptio yng Ngwobrau Radio’r BBC.
Bydd Still Floating yn ymweld â Stiwdio Theatr y Torch nos Fercher 22 Mawrth am 7.30pm. Tocynnau yn £10.00. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.