OH DO FE WNAETHOM!

Mae pantomeim Theatr y Torch, Aberdaugleddau yn 2022, Sleeping Beauty, wedi torri record y Swyddfa Docynnau. Dyma yw’r pantomeim sydd wedi gwerthu orau erioed.

Gwelodd y Torch werthiannau tocynnau yn torri pob record o’i pherfformiadau i’r cyhoedd, gyda’r hoffus fonesig, Fanny the Nanny, a chwaraewyd gan Dion Davies yn troi pennau ochr yn ochr â chast o actorion proffesiynol yn cynnwys  Jâms Thomas, Clêr Stephens, Gwenllian Higginson a Miriam O’Brien.

Gwerthwyd dros 6350 o docynnau pantomeim eleni i gymharu â’r record flaenorol o 5175 yn 2016 ac fel mae Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch yn esbonio, roedd y pantomeim yn llwyddiant ysgubol:

“Pleser o’r mwyaf oedd croesawu cymaint o deuluoedd i’r Torch i weld Sleeping Beauty ac i rannu peth hwyl y Nadolig. Rydym hefyd yn hynod ddiolchgar i nifer o gwmnïau a wnaeth gyfrannu’n hael i’n Hymgyrch Dymuniadau’r Nadolig. Roedd hyn wedi caniatáu i ni weithio gydag elusennau lleol i ddarparu tocynnau ar gyfer teuluoedd a fyddai fel arall ddim yn gallu mynychu efallai.”

Yn ogystal â’r perfformiadau i’r cyhoedd, fe wnaeth dro 30 o ysgolion lleol a grwpiau cymunedol fwynhau’r sioeau, gan gynnwys 20 o ffoaduriaid o’r Wcrain, a wnaeth flasu pantomeim am y tro cyntaf. Mae hyn gyda diolch i gefnogaeth gan Bwyllgor Gefeillio Aberdaugleddau.

Wrth i Chelsey ddechrau ei swydd newydd, mae’r Torch yn dweud ffarwel wresog i Peter Doran, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch am y 25 mlynedd diwethaf. Sleeping Beauty oedd sioe olaf Peter fel cyfarwyddwr cyn ei ymddeoliad ac mae’r gwerthiannau neilltuol yn ffordd wych i ddathlu ei lwyddiant.

Gan edrych i’r dyfodol, mae’r Torch wedi cyhoeddi ei phantomeim Nadoligaidd nesaf ar gyfer 2023, Beauty and the Beast, un o’n storiâu tylwyth teg hynaf sydd wedi bod yn swyno pobl am bron i 300 mlynedd, ac edrycha i fod yn un poblogaidd hefyd. Bydd y pantomeim yn cael ei gyfarwyddo gan Chelsey a wnaeth ychwanegu:

“Panto yw uchafbwynt ein blwyddyn bob amser, ac ni fedrwn aros i groesawu hyd yn oed mwy o bobl ifanc (a’r rheiny sy’n ifanc eu ffordd) i ymuno â ni ar gyfer Beauty and The Beast y gaeaf nesaf gyda chaneuon newydd, gwisgoedd dros ben llestri a jôcs i hollti’ch bol.”

Mae tocynnau ar gyfer Beauty and the Beast ar werth nawr gyda chynnig cyntaf i’r felin o £21.50, £18.50 chonsesiynau a £68.00 ar gyfer teuluoedd tan ddiwedd mis Ionawr 2023. Mae tocynnau’n gyflym werthu ar gyfer y pantomeim hwn o ddydd Gwener 15 i ddydd Sul 31 Rhagfyr. Gellir archebu eich sedd fesul Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu ar-lein yn torchtheatre.co.uk.  

Ochr yn ochr â hyn, mae archebion hefyd ar agor ar gyfer perfformiadau ysgolion o Beauty and the Beast. Ar gyfer ymholiadau ac i gadw’ch lle, e-bostiwch boxoffice@torchtheatre.co.uk

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.