Sioe hyfryd i dywysogesau pop a marchogion drwg

Bydd ffefryn deuluol Full House yn hedfan i Theatr Torch cyn hir gyda sioe fyw newydd yn seiliedig ar y llyfr poblogaidd, The Worst Princess.

Nid yr ewn Sue yw eich seren chwedlonol bob dydd, a dweud y gwir hi yw Y Dywysoges Waethaf. Ar ôl cael ei hachub gan ei thywysog dwl mae hi’n barod i ddechrau ei diwedd hapus. Ond yn gyntaf bydd yn rhaid iddi fod yn ffrind i ddraig, dianc o dŵr a rhoi dillad isaf y tywysog ar dân yng nghwmni ei ffrind gorau sy’n anadlu tân. A fydd Sue yn dod o hyd i’w hapus byth bythol?

Dewch draw i Theatr Torch, Aberdaugleddau ddiwedd mis Mai pan fydd Full House yn cychwyn ar daith fwayf uchelgeisiol hyd yma gyda’u haddasiad epig o lyfr poblogaidd Anna Kemp a Sara Ogilvie, The Worst Princess. Yn addas ar gyfer 3+ oed, bydd aelodau o’r teulu cyfan wrth eu bodd â'r strafagansa ffantasi llawn hwyl a chwerthin gyda phypedau anhygoel, cyd-ganu pop bachog a draig ddisglair fwy na bywyd.

Anna Kemp yw awdur y llyfr poblogaidd, The Worst Princess, ac mae wrth ei bodd gyda'r sioe.

Meddai: “Am sioe fendigedig! Roedden ein sylw wedi ei hoeolio ar yr olygfa drwy'r amser. Roedd y perfformiadau i gyd yn llawn egni a hwyl... Ni all fod yn hawdd troi llyfr lluniau byr iawn yn sioe awr o hyd ond fe wnaethoch chi waith gwych - ar gyflymder da iawn gyda llwyth o amrywiaeth. Roeddwn i wrth fy modd gyda'r cyfan. Diolch am ddewis troi fy llyfr yn sioe mor wych.”

Ac ychwanegodd aelod o'r gynulleidfa:

“Sioe ardderchog - neges wych, gwerthoedd cynhyrchu uchel. Gwell na'r pethau rydyn ni wedi'u gweld yn y West End. Rydym angen mwy o gwmnïau theatr fel Full House i annog pobl ifanc i'r celfyddydau.”

Mae Full House yn deall bod pobl ifanc yn hoffi crwydro o gwmpas y lle, yn enwedig pan fo cymaint o hwyl yn digwydd o'u cwmpas, felly mae gennym ni awyrgylch hamddenol ym mhob un o'n sioeau. Peidiwch â rhoi’ch hun dan straen os oes angen i'ch plentyn bach godi o'i sedd neu os oes angen i chi fynd allan hanner ffordd drwy'r perfformiad i gael egwyl toiled! Rydym yn deall. Rydyn ni am i chi a'ch teulu ymlacio a mwynhau'r sioe. Mae The Worst Princess wedi ei dylunio i sicrhau bod cymaint o gefnogaeth a hygyrchedd â phosibl i gynulleidfaoedd. Mae hyn yn cynnwys addasiadau goleuo a sain i leihau pryder.

Bydd The Worst Princess ar lwyfan Theatr Torch ddydd Sadwrn 24 Mai am 2.30pm a dydd Sul 25 Mai am 11.30am a 2pm. Tocynnau yn £14 (oedolyn), £12 (plentyn) a £46 teulu. Ewch i'r wefan am fanylion pellach www.torchtheatre.co.uk / ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.