SIOE DEYRNGED Y BEACH BOYZ

Paratowch am noson a hanner wrth i’r Beach Boyz Tribute Band ddychwelyd i Theatr y Torch yn dilyn perfformiad a wnaeth werthu pob tocyn yn 2022, gyda chynhyrchiad newydd sbon o’r enw The Beach Boyz Tribute Show! Archebwch eich tocynnau’n gynnar er mwyn osgoi siom gan fod y Beach Boyz mor boblogaidd yma yn y Torch!

Dewch i weld y bechgyn ar lwyfan ar nos Sadwrn 22 Gorffennaf am 7.30pm fel y gwelir ar deledu'r BBC, BBC Radio Wales, radio lleol y BBC a gorsafoedd radio lleol annibynnol ar draws y DU!

Dewch i ymuno â thaith mewn amser a gofod, yn ôl i'r 1960au, draw i lannau heulog Talaith Aur Califfornia lle cafodd y sain syrffio ei genhedlu.

P'un a ydych yn dod yn ôl i weld y Beach Boyz Tribute Band eto neu’n dod am y tro cyntaf, mae’r sioe mor wefreiddiol ag erioed, gan lenwi’r awditoriwm â harmoni lleisiol godidog, cyfoethog. Mae’r pump sydd yn canu, oll yn chwarae’r bechgyn sy’n Fand Teyrnged Beach Boyz, yn parhau i syfrdanu ac yn herio cred yn eu hailchwarae o’r band roc pop mwyaf yn America, The Beach Boys®.

Peidiwch â synnu, ar ddiwedd y perfformiad, os byddwch ar eich traed, yn clapio a bloeddio am fwy, gan y byddwch mewn cwmni da, oherwydd mae hyn yn tueddu i ddigwydd ym mhob cyngerdd Band Teyrnged Beach Boyz, gan syfrdanu cynulleidfaoedd ar draws y DU a thu hwnt!

Bellach yn eu 8fed flwyddyn o deithio i theatrau a gwyliau yn y DU ac Ewrop, mae Band Teyrnged y Beach Boyz wedi diddanu miloedd o bobl gyda’u sioe lwyfan egnïol a phleserus a thros 30 o ganeuon Beach Boys.

Bydd THE BEACH BOYZ TRIBUTE SHOW yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Sadwrn 22 Gorffennaf am 7.30pm. Tocynnau: Llawn £22.50 | £21.50 CONS. Gellir prynu tocynnau o’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.