Sioe Ryngwladol Boblogaidd The Simon And Garfunkel Story Yn Ymweld  Theatr Torch

Yn dilyn perfformiad a werthodd POB TOCYN yn y West End, Llundain, taith byd-eang a chymeradwyaeth ar ei sefyll ym mhob perfformiad, mae The Simon & Garfunkel Story yn parhau i syfrdanu cynulleidfaoedd ar draws y byd, gan ei gwneud yn berfformiad sydd yn rhaid ei weld. Y sioe hon ar hyn o bryd yw'r sioe theatr fwyaf a mwyaf llwyddiannus sy'n dathlu bywydau a gyrfa'r enwogion Gwerin/Roc Simon a Garfunkel.

Yn cynnwys cast o actorion-gerddorion dawnus o'r West End, bydd eu perfformiad ym mis Mehefin yn cludo cynulleidfaoedd Theatr Torch yma yn Aberdaugleddau yn ȏl trwy gyfnodau Groovy y 1960au. Mae'n adrodd hanes Paul Simon ac Art Garfunkel o'u dechreuadau diymhongar fel deuawd Roc n Roll 'Tom and Jerry', hyd at eu llwyddiant ysgubol a'u chwalfa ddramatig, gan orffen gydag ail-greu syfrdanol o gyngerdd ddiwygiad Central Park yma 1981.

Gan ddefnyddio sgrin daflunio mawr iawn, mae’r sioe yn cynnwys lluniau o’r 1960au a darnau o ffilm tra bod band byw llawn yn perfformio’r holl ganeuon gan gynnwys Mrs Robinson, Cecilia, Bridge Over Troubled Water, Homeward Bound, Sound of Silence, a nifer fawr o rai eraill!

Wedi ei disgrifio fel ‘nostalgia fest’ gan y Mail on Sunday ac ‘amazing’ gan Elaine Paige ar BBC Radio 2, mae pob perfformiad o Sydney i Seattle wedi arwain at gymeradwyaeth ar ei sefyll. Mae hon yn noson na ddylid ei cholli yma yn Theatr Torce, Aberdaugleddau.

Mae The Simon & Garfunkel Story yn heidio i Theatr Torch ar nos Sadwrn 29 Mehefin am 7.30pm. Pris tocyn £24 / £22.50 consesiwn. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wyboadaeth, cysylltwch â’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.