THEATR Y TORCH YN CROESAWU OPERA NEWYDD YNGHYLCH MYND I'R AFAEL AG ARWAHANRWYDD CYMDEITHASOL GAN OPERA DINAS ABERTAWE
Unigrwydd yw pla y gymdeithas fodern ac mae’n cael ei archwilio, ynghyd â dod o hyd i gyfeillgarwch – a dyma yw prif themau opera newydd – Shoulder to Shoulder gan y cwmni clodwiw Opera Dinas Abertawe
Trwy waith ymestyn allan yn 2020 – 2021, datblygodd Opera Dinas Abertawe bartneriaeth gyda Men’s Sheds Cymru, sy'n rhan o fudiad o fri rhyngwladol a sefydlwyd yn Awstralia sy'n gwella llesiant dynion. Cefnoga Men’s Sheds Cymru ddynion sy’n wynebu unigrwydd ac mewn perygl o unigedd cymdeithasol, gan helpu unigolion trwy weithgareddau cymdeithasol.
Yn 2021, adroddodd y Swyddfa Ystadegau Gwladol fod tua 3.3 miliwn o bobl sy’n byw ym Mhrydain yn disgrifio’u hunain fel ‘parhaol unig’ neu ‘yn teimlo’n unig drwy’r amser.’* Yn aml nid oes gan ddynion y rhwydweithiau cymorth sydd gan fenywod yn gyffredin ac efallai y byddant yn cael trafferth i siarad wyneb yn wyneb am faterion y maent yn eu hwynebu. Mae mudiad Men’s Shed yn seiliedig ar y ddealltwriaeth bod dynion yn fwy tebygol o helpu eu hunain a mynychu rhywbeth y maent wedi’i sefydlu neu y mae ganddyn nhw rywfaint o reolaeth drosto. Felly mae ‘Shoulder to Shoulder’ – yn cydnabod y gall mynychu cyfarfod, cymryd rhan mewn gweithgareddau neu dasgau a rennir, a threfnu dros baned o de gaeleffaith gadarnhaol ar unigrwydd, unigedd a llesiant meddwl wrth i bobl gymryd rheolaeth yn ôl a mwynhau amser a dreulir gyda’i gilydd.
Cyfansoddwyd y gerddoriaeth ar gyfer Shoulder to Shoulder gan Lenny Sayers gyda geiriau a chaneuon wedi’u hysgrifennu gan Brendan Wheatley ac maent oll yn seiliedig ar straeon y shedders, yn amrywio o’r doniol i’r emosiynol sy’n procio’r meddwl.
Mae ensemble Shoulder to Shoulder ar gyfer perfformiad Theatr y Torch yn cynnwys aelodau o Gymdeithas Operatig Hwlffordd yn ogystal â chantorion a cherddorion proffesiynol, yn bennaf o Gymru. Mae nifer yn gantorion mewn tai opera mawr, cwmnïau, a cherddorfeydd, gan gynnwys y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden; Gŵyl Opera Glyndebourne; Opera Cenedlaethol Cymru; English National Opera; Opera North; Scottish Opera, a'r London Philharmonic Orchestra.
Bydd rôl Gwen yn Shoulder to Shoulder, yn cael ei chwarae nawr gan y gantores hynod dalentog Rebecca Goulden sydd wedi perfformio gyda’r cwmni droeon, gan gynnwys canu’r prif rannau yn Faust a La Boheme yn y Torch. O’i gwreiddiau yn Sir Benfro, mae Rebecca wedi mynd ymlaen i ganu yn y Tŷ Opera Brenhinol, Covent Garden a Glyndebourne ac yn rhyngwladol gydag Opera Köln (Cologne).
Dywedodd Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch –
“Rydym yn rhannu gweledigaeth Opera Dinas Abertawe o wneud opera a’r celfyddydau yn hygyrch i bawb a phwysigrwydd cwmnïau celfyddydol yn gweithio gyda chymunedau lleol. Ychwanegiad cyffrous yw Shoulder to Shoulder i’n rhaglen eleni.”
Meddai Brendan Wheatley o Opera Dinas Abertawe a libretydd Shoulder to Shoulder: “Mae straeon y ‘Shedders’ yn wirioneddol ysbrydoledig. Mae yna straeon am ddynion yn goresgyn adfyd aruthrol yn amrywio o dor-perthynas a phrofedigaeth, o afiechyd i anghyflogaeth trwy fod yn rhan o Men’s Shed.
“Bydd Shoulder to Shoulder yn deimladwy, yn ysgogi'r meddwl, yn ddyrchafol ac yn ddoniol i gynulleidfaoedd. Credwn y dylai opera fod yn berthnasol ac yn hygyrch. Mae rhywbeth at ddant pawb, p’un a ydych yn hoff o opera neu’n newydd i opera.”
Wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â’r grŵp Cenedlaethol – Men’s Sheds Cymru, sydd â thros 70 o grwpiau, mae gan Sir Benfro Men’s Sheds yn Sir Benfro ar hyn o bryd.
- Aberdaugleddau
- Neyland
- Doc Penfro a
- Solfach
Mae rhagor o wybodaeth am grwpiau Men’s Sheds Sir Benfro ar gael yn www.mensshedscymru.co.uk/find-a-shed/#
Caiff Shoulder to Shoulder wedi ei gefnogi gan Gyngor Celfyddydau Cymru, y Garfield Weston Foundation, Gwobrau Loteri Cenedlaethol ar gyfer Cymru Gyfan, Tŷ Cerdd, a Ffrindiau Opera Dinas Abertawe.
Bydd Shoulder to Shoulder yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Sul, 30 Hydref am 7.30pm. Tocynnau’n £14.00 / £12.50 consesiynau. I ddarganfod mwy neu I archebu lle, ffoniwch 01646 695267 neu e-bostiwch boxoffice@torchtheatre.co.uk
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.