Chwedl Dditectif Newydd Sbon Yn Heidio Am Sir Benfro!

"Watson, I'm sorry to say but they are dead, murdered, killed! This will be our toughest investigation yet, get my coat and my hat!"

Ydych chi'n ffansio'ch hun fel tipyn o dditectif? Ydych chi'n ystyried eich hun fel Poirot? Wel, does dim angen edrych ymhellach na Theatr Torch fis Mehefin, wrth i Sherlock and Watson: A Murder in the Garden alw heibio.

Pan fydd corff yn cael ei ddarganfod yn ddirgel yn gorwedd yng nghanol Gerddi Plasty Landsdown, does gan yr heddlu ddim dewis ond galw ar Sherlock Holmes a’i berswadio i ymgymryd â’i achos caletaf hyd yma. Gyda’i gynorthwyydd ffyddlon Watson wrth ei ochr, mae deuawd ditectif gorau ein cenedl yn brwydro yn erbyn pobl ddrwg a dihirod i ddarganfod pwy sydd y tu ôl i’r llofruddiaeth yn yr ardd.

Wedi’i gyflwyno i chi gan gwmni comedi arobryn Calf 2 Cow (The Jabberwocky), mae’r addasiad newydd sbon hwn yn gomedi sy’n llawn slapstic, aml-rôl ac wrth gwrs yn llawn cerddoriaeth fyw a roc a rôl. Gyda Samuel Freeman o Aberdaugleddau yn un o’r prif gymeriadau, gall aelodau’r gynulleidfa ddisgwyl gwledd fythgofiadwy.

Mae’r stori dditectif newydd sbon, a gafodd pedair seren gan yr Arts Show ac a ddisgrifiwyd fel “A Perfect Treat”, yn un na ddylid ei cholli.

Gan ddathlu holl ryfeddod Sherlock, yn gymysg â golwg newydd ar stori newydd sbon, bydd Sherlock and Watson: A Murder in the Garden, yn bendant yn noson llawn hwyl a fydd yn eich gadael yn gwenu. Yn addas ar gyfer 12 +  – fe fydd ‘na waed…

Bydd Sherlock and Watson: A Murder in the Garden yn heidio i Theatr Torch ar ddydd Mercher 12 Mehefin am 7pm. Pris tocyn ar gyfer y teulu: £45 / Llawn: £16 / Plentyn: £11. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.