Shaun Ryder – dyn gwyllt roc a rôl yn ymweld â’r Torch

Ef yw'r dyn roc gwyllt a ddaeth yn drysor cenedlaethol. Nawr mae Shaun Ryder, blaenwr Happy Mondays a Black Grape, ar ei ffordd ar gyfer taith newydd ar lafar gyda noson fythgofiadwy yn Theatr Torch ar nos Sadwrn 5 Ebrill.

Gan drafod digwyddiadau'r DU gyfan, bydd Shaun yn siarad yn onest am ei fywyd plesryddol yn y diwydiant cerddoriaeth, ei yrfa deledu lwyddiannus, a phopeth yn y canol. Bydd y cefnogwyr yn cael pleser mawr wrth iddo gynnal sesiwn Cwrdd a Chyfarch cyn ei berfformiad hefyd.

Fe wnaeth y seren-sydd-wedi-ymddangos-ar-fwy-o-sioeau-teledu-nag-unrhyw-un-sydd â-hawl-i’w wneud – yn cynnwys Celebrity Gogglebox, ac I’m A Celebrity Get Me Out Of Here, ymhlith llawer o rai eraill - ailddiffinio ffordd o fyw sex’n’drugs’n’rock’n’roll yn ystod oes aur Madchester. Bydd Shaun yn teithio i gefnogi ei lyfr newydd: Happy Mondays - and Fridays and Saturdays and Sundays.

Meddai: “Yn sicr, mae fy mywyd wedi bod braidd yn wallgof ac ni allaf aros i rannu fy holl straeon o Happy Mondays, Black Grape a thu hwnt gyda chi. Dyma fi ar fy mwyaf gonest; does dim byd oddi ar y bwrdd – disgwyliwch yr annisgwyl a pharatowch i mi droi eich melonau, ddyn.”

Gall cefnogwyr edrych ymlaen at garnifal o ormodedd, straeon gwyllt, a gwirioneddau annhebygol, wrth iddynt fwynhau doniau seren roc a rôl unigryw a alwyd yn ateb Britpop i WB Yeats.

Paratowch eich hunain a dywedwch Haleliwia am Shaun.

Bydd Shaun Ryder yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Sadwrn 5 Ebrill am 7.30pm. Bydd y seiswn Cwrdd a Chyfarch o 45 munud yn dechrau am 6pm. Mae tocynnau ar gyfer y sioe yn costio £30 / £50 VIP a £80 Chwrdd a Chyfarch. Ewch i'r wefan am ragor o fanylion am www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar (01646) 695267 neu gliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.