Ychydig o Lwch Tylwyth Teg y Royal Ballet yn y Torch
Ydych chi'n gefnogwr bale? Ydych chi wedi'ch swyno gan stori Cinderela? Yna nid oes angen edrych ymhellach na The Royal Ballet: Cinderella, a ddarlledir yn fyw yma yn Theatr Torch, Aberdaugleddau ym mis Rhagfyr. Bydd y stori fytholwyrdd am hud, swyn, cariad, dewrder a charedigrwydd yn eich cludo i fyd ethereal lle mae taenelliad o lwch tylwyth teg yn gwireddu breuddwydion.
Mae’r bale hudolus hwn gan Goreograffydd Sylfaenydd y Royal Ballet, Fredrick Ashton, yn brofiad theatrig i’r teulu cyfan y Nadolig hwn ac yn un y mae pawb yn ei garu. Yn gaeth gartref ac yn cael ei rhoi i’w gwaith gan ei Llys-Chwiorydd, mae bywyd Cinderela’n ddiflas. Mae popeth yn newid pan fydd hi'n helpu menyw ddirgel...Gyda thipyn bach o hud, mae hi'n cael ei chludo i fyd newydd etheraidd - un lle mae tylwyth teg yn dod ag anrhegion y tymhorau, lle mae pwmpenni'n troi'n gerbydau, a lle mae gwir gariad yn parhau.
Wedi derbyn pum seren gan The Financial Times a The Stage, mae’r cynhyrchiad hefyd wedi derbyn adolygiadau gwych gan yr Express, The Times a’r Evening Standard ac mae’n wledd Nadoligaidd na ddylid ei cholli.
Bydd cynhyrchiad o The Royal Ballet: Cinderella yn cael ei ddarlledu’n fyw yn Theatr Torch ar nos Fawrth 10 Rhagfyr am 7.15pm. Tocynnau: Llawn: £20. Consesiwn: £18 ac dan 26: £9.
I archebu eich tocynnau neu am ragor o wybodaeth, cysylltwch â'r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.