Ballet Cymru yn Cyflwyno Romeo a Juliet

Bydd Ballet Cymru, cwmni sydd wedi ennill Gwobr y Critics' Circle, yn cyflwyno addasiad eithriadol o gampwaith Shakespeare, ‘Romeo a Juliet’ yn Theatr Torch fis Mehefin. Yn enillydd y Cynhyrchiad Dawns Gorau ar Raddfa Fawr yng Ngwobrau Beirniaid Theatr Cymru, mae’r cynhyrchiad hwn yn un na ddylid ei golli.

Mae ymladd dwys, deuawdau angerddol a themâu oesol yn atseinio trwy goreograffi dramatig a thelynegol. Mae gwisgoedd cywrain a thafluniadau fideo neilltuol yn creu byd o berygl a chyffro, lle caiff dau gariad ifanc eu dal mewn hen elyniaeth.

Mae Romeo a Juliet yn cynnwys coreograffi gan Gyfarwyddwyr y cwmni, Darius James OBE ac Amy Doughty, a gwisgoedd gan Georg Meyer-Wiel (www.meyerwiel.com) sydd wedi creu gwisgoedd ar gyfer rhai o gwmnïau mwyaf blaenllaw'r byd, yn cynnwys Rambert Dance Company ac Australian Dance Theatre.

“Gyda gwely a phlatfform sy’n gwasanaethu fel balconi Juliet a’r beddrod, mae’r ensemble ystwyth yn mynd i’r eithaf yn y golygfeydd ymladd, er gwaethaf cyfyngiadau’r lle, i gyflwyno ymdeimlad o anhrefn sy’n achlysurol ac yn heintus,” esbonia Anna Winter, ar gyfer The Guardian ac a rhoddodd dair seren i’r bale.

Mae Romeo a Juliet yn gydweithrediad deinamig ac unigryw rhwng tri o sefydliadau celfyddydol rhagorol Cymru, Ballet Cymru, Coreo Cymru (Cynhyrchydd Creadigol Dawns Cymru) a Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd.

Bydd Romeo and Juliet yn cael ei pherfformio ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Mawrth 4 Mehefin am 7.30pm. Pris tocyn: £19/ Consesiwn £18. O dan 8 - £11. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.