Rôl i Gefnogi Cynulliad Cymunedau LHDTC+ yn Theatr y Torch
Mae grŵp Queer Beacons Icons and Dykons (BID) yn chwilio am Lysgennad Prosiect lleol ar gyfer dau ddiwrnod o waith yn ystod mis Chwefror 2024. Pwrpas y rôl llawrydd cyflogedig hon yw cefnogi cynulliad o gymunedau LHDTC+ mewn digwyddiad newydd a gynhelir gan Theatr y Torch yn Aberdaugleddau .
Ers mis Medi 2023, mae artist arweiniol BID, Tom Marshman, wedi bod yn casglu straeon ar draws y DU ac mae’r prosiect bellach yn dechrau ar ei daith o Gymru.
Mae BID yn archwilio effaith deddfwriaeth Adran 28 a gyflwynwyd gan lywodraeth Geidwadol Margaret Thatcher. Mewn partneriaeth â Theatr y Torch, mae BID yn cynnal te parti yn ystod mis hanes LHDTC+ (ddiwedd Chwefror). Dyma gyfnod i gynnal sgyrsiau pwysig i’r gymuned cwiar, gan wneud hanesion anghofiedig yn weladwy, a’u cysylltu â’r foment bresennol.
Yn ystod y te parti bydd perfformiadau byr yn ymwneud â thestun adran 28 i ysgogi sgwrs, gan ddarparu mannau cychwyn ar gyfer trafodaeth gydag elfen cabaret. Mae'r digwyddiad AM DDIM i'w fynychu.
Bwriad BID yw dod â chenedlaethau gwahanol at ei gilydd ar gyfer y sgwrs hon ac mae ganddyn nhw ddiddordeb arbennig mewn clywed sut y bu i siaradwyr Cymraeg LHDTC+ brofi ffiniau’r Gymraeg i drafod eu profiad.
Hoffent weithio gydag aelod lleol o'r gymuned yn y rôl neu Lysgennad Prosiect i gysylltu'r prosiect â'r gymuned LHDTC+ leol, i fod yn berson ar lawr gwlad a chynrychiolydd lleol y prosiect.
Nid yw'n ofynnol i'r llysgennad fod â chefndir yn y celfyddydau neu eiriolaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd y rôl gyflogedig hon, anfonwch fynegiant o ddiddordeb a'ch profiad perthnasol (dim mwy na dau baragraff / neu dri munud o nodyn llais neu fideo) at Sarah: info@tommarshman.com erbyn Ionawr 26.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.