ADOLYGIAD RILEY - DUNGEONS & DRAGONS: HONOUR AMONG THIEVES

Mae lleidr swynol a chriw o anturiaethwyr annhebygol yn teithio ar gyrch peryglus i adalw tabled goll, ond mae pethau'n troi'n chwerw pan fyddan nhw’n dod wyneb i wyneb â’r bobl anghywir sydd am iddynt farw! Yn y band hwn o anturiaethwyr mae Edgin, arweinydd y grŵp, Holga ymladdwr y tîm, Simon y dewiniwr a Doric a newidiwr golwg/derwydd.

Cerddais mewn i’r sinema a dychmygais beth oedd cynnwys ffilm Dungeons and Dragons gan ei bod yn seiliedig ar gêm ffantasi lle gallech chi wneud unrhyw beth heb lwybr gosod. Roedd hyn felly yn rhoi llawer i'r gwneuthurwyr ffilm i fwrw ati ac fe wnaethon nhw ffilm wych o'r cyfan. Roedd yn heist swynol gyda nifer o agweddau comedi ac ysbrydolwyd tipyn iawn o’r gêm wreiddiol ond llwyddodd i fy synnu a phawb oedd yn gwylio. Roedd yr actorion fel Chris Pine wir yn cofleidio’r rolau a roddodd deimlad mwy bywiog iddynt a ffordd ddoniol o ryngweithio â’r bobl eraill mewn ffordd nad wyf yn meddwl y gallai neb arall. Roedd gan y cymeriadau straeon a phersonoliaethau cymhellol sy’n gwneud yr antur yn fwy o bos gyda throeon plot annisgwyl ym mhob cornel.

Mae’r cymeriadau’n ddoniol ond yn realistig, mae eu storiâu a’u cymelliadau yn gwneud i chi deimlo’n fwy empathetig iddynt a chredaf fod y cysylltiad i’r gêm wreiddiol yn ei gwneud hi’n llawer mwy pleserus i gefnogwyr hir amser a chynulleidfa mwy newydd. Hefyd, nid oes angen i chi fod chwarae’r gêm i ddeall y ffilm sy’n gallu achosi problem mewn nifer o addasiadau, ond os yr ydych wedi gweld hen gartwnau neu wedi chwarae’r gêm wreiddiol yna mae ychydig o ddarnau o hiraeth ym mhob man. Roedd rhai golygfeydd yn ceisio ychwanegu dyfnder ychydig ar hap ac nid oeddent yn teimlo eu bod yn cyd-fynd â gweddill y plot. Teimlaf gyda ffilm 2 awr y gallent fod wedi casglu ychydig mwy o ddyfnder yn y cymeriadau o amgylch y prif blot.

Ar y cyfan, dw i’n credu ei bod yn ffilm dda iawn gyda storiâu cymhellol a chymeriadau sy’n eich gwneud i chi deimlo a’u deall yn fwy. Fe wnes i wir fwynhau gwylio’r ffilm hon ac rwyf yn argymell i unrhyw un sy’n hoff o ffilm ffantasi dda fynd i’w gweld.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.