ADOLYGIADAU RILEY
Rydym ni yma yn Theatr y Torch wrth ein bodd i gyflwyno adolygwr newydd-sbon, Riley Barn.
" Fy enw i yw Riley. Rwy'n fachgen 12 mlwydd oed sy'n mynd i Ysgol Gyfun Aberdaugleddau. Mae gen i 3 sibling ac rydw i'n eu caru'n fawr. Cefais fy ngeni yn yr Almaen gan fod fy nhad yn gwasanaethu yn y fyddin ar y pryd. 2 flynedd yn ôl gadawodd y fyddin a dechreuodd hyfforddi i fod yn athro. Mae mam yn gweithio yn ein hysgol leol ac yn gweithio'n hynod o galed i sicrhau bod pawb yn yr ysgol a gartref yn hapus.
Cefais fy nghyflwyno i’r cyfle hwn gan athrawes yn yr ysgol ac roeddwn wrth fy modd o glywed fy mod yn cael fy ystyried ar gyfer y cyfle anhygoel hwn. Rwyf wrth fy modd â ffilmiau a dramâu ac roeddwn bob amser wrth fy modd yn actio rhannau o fy hoff ffilm felly pan glywais y gallwn adolygu pobl eraill roeddwn i'n gyffrous i'w weld yn cael ei wneud yn broffesiynol. Roeddwn i wedi mynd i sioeau yn Theatr y Torch yn y gorffennol felly dwi'n gwybod pa mor wych y gallan nhw fod a dwi'n gobeithio y byddan nhw'r un mor wych y tro yma!"
Yr wythnos diwethaf, aeth Riley i weld Matilda the Musical. Dyma beth a oedd ganddo i’w ddweud:
"Mae stori Matilda am ferch arbennig sy'n ceisio trawsnewid ei hysgol o fod yn "uffern ar y ddaear" i le o addysg a rhyfeddod ond gydag un peth yn ei ffordd, Miss Trunchbull sy’n goddef dim byd! Mae'r ail-gread hwn o lyfr clasurol Roald Dahl gyda’r ffilm lwyddiannus yn mynd â ni ar daith wahanol gan ddefnyddio cân a dawns. Mae'r caneuon yn chwarae rhan hanfodol wrth adrodd y stori ac yn helpu i roi teimlad o obaith a thristwch pan fo angen. Mae hyn oll gyda'i gilydd yn creu stori fywiog a lliwgar ar gyfer y teulu cyfan.
“Roeddwn i wrth fy modd gyda'r golygfeydd hiraethus ond hefyd sut mae'n dangos rhai syniadau gwreiddiol gan greu teimlad o amheuaeth pan nad ydych chi'n gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd. Mae'r ffordd maen nhw'n cyfleu Miss Trunchbull fel y person nad yw’n goddef dim, yn wallgof, a'r ffordd filwriaethus mae hi'n rhedeg yr ysgol yn hollol anhygoel. Mae'n ei phortreadu ar y dechrau fel prif feistres hynod gaeth ac yn un sy’n casau plant ond wrth i'r ffilm fynd yn ei blaen mae hi'n mynd yn fwy, fwy gwallgof. Erbyn diwedd y ffilm gallwch weld nad yn unig mae ganddi gasineb llosg tuag at blant ond ei bod hefyd yn ansefydlog yn feddyliol. Mae ei hymarweddiad gwallgof yn weledol yn y ffordd dotalitaraidd y mae'n rhedeg yr ysgol.
“Mae Miss Honey yn helpu Matilda drwy’r cyfnodau anodd a hapus a gallwch weld ei bod hi wir yn gofalu am ei myfyrwyr a'r bobl y mae'n cwrdd â nhw. Mae hi'n gymeriad swil ond hoffus sydd â hanes garw ond sy'n rhannu’r cyfan gyda Matilda pan mae mewn angen.
“Yn olaf ond nid yn lleiaf, fe aeth Matilda, yr actores oedd yn ei chwarae, i mewn i’r rôl a chwarae Matilda fel mai hi oedd y cymeriad ac roedd yn gallu perfformio a chanu’r caneuon mor dda. Mae cymeriad Matilda yn y ffilm hon yn union fel y gwreiddiol ond gydag ychydig o ychwanegion. Ei hyder i sefyll i fyny, nid yn unig i Trunchbull, ond i'w rhieni pan fydd yn gwybod eu bod yn gwneud pethau drwg. Hefyd ei gallu i reoli ei “phwerau” na allai Matilda ei wneud yn y ffilm wreiddiol. Roedd y caneuon yn wych ac yn ffitio’n arbennig o dda gyda’r golygfeydd ac roedd y syniadau newydd a llinellau’r plot oll yn wych.
Ar y cyfan roedd y ffilm hon yn wefr i'w gwylio a dyma fy hoff ail-gread personol. Ffilm wych sydd wedi gwneud y gwreiddiol yn falch."
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.