ADOLYGIADAU RILEY - AVATAR: THE WAY OF THE WATER

Avatar: The Way of Water yw dilyniant hir-ddisgwyliedig i'r Avatar ysgubol chwyldroadol cyntaf. Cerddais i mewn i'r theatr yn llawn disgwyliadau ar ôl eisoes gweld y stori arloesol a delweddau'r ffilm wreiddiol. Yn dilyn 3 awr o stori anhygoel, gallaf wir ddweud bod y dilyniant hwn wedi llwyddo. Ni wnaeth siomi a do, fe wnaeth wir gyflawni fy nisgwyliadau.

Fe wnaeth aelodau o griw Avatar: The Way of Water herio eu hunain yn fawr i greu dilyniant arloesol i'r clasur poblogaidd. Roedd y ffilm yn cynnwys y delweddau anhygoel a gafwyd gan dechnoleg CGI mwyaf diweddar. Yn fy marn i, fe wnaeth hyn gyfoethogi profiad y gwylwyr. Mae'r ffilm yn gwneud y gorau o ddefnyddio'r actorion gwreiddiol sy'n chwarae'r rolau yn berffaith ac yn rhoi eu personoliaethau gwreiddiol i'r cymeriad na allai unrhyw actor arall fod wedi'u gwneud hynnhy. Roedd y CGI yn gwneud iddo deimlo fel bod Pandora yn fan go iawn ac mewn nifer o'r golygfeydd, roedd y dŵr yn edrych yn ddŵr go iawn a'r actorion yn edrych yn real hefyd.

Dilyna'r stori lwybr tebyg i'r ffilm wreiddiol gyda rhai newidiadau o amgylch y llinell amser. Mae hyn yn cyd-fynd yn dda iawn â hanes Pandora a'i thrigolion a sut maent yn addasu i fygythiadau. Roedd hyd y ffilm, er yn hir, yn caniatáu i'r awduron adeiladu tensiwn a disgwyliad y gwyliwr er mwyn cael diweddglo da.

Fe wnes i wir fwynhau gwylio'r ffilm hon a cherddais allan o'r theatr yn teimlo bod fy nisgwyliadau wedi'u bodloni. Byddwn yn argymell yn fawr i chi wylio'r ffilm hon wedi i chi wylio'r ffilm wreiddiol.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.