BLOG RHIF. 9 - RHIDIAN EVANS
Eleni, mae’n flwyddyn arbennig yn hanes Menter Iaith Sir Benfro wrth i ni ddathlu 25 mlynedd ers sefydlu’r Fenter ym 1998. Byddwn yn nodi hynny yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn edrych ymlaen at gael digwyddiadau a gweithgareddau amrywiol o gwmpas y sir i gofnodi’r achlysur.
Mae gwaith y Fenter yn cynnwys gweithio ar draws y sir gyfan, mae hyn yn her yn ei hun gan taw tîm bach iawn sydd gennym ond drwy weithio yn dda gyda’n partneriaid fe obeithiwn fod ein gwaith yn gadael ei hôl ar gymunedau’r Sir. Rydym yn gweithio’n bennaf gyda theuluoedd, plant a phobl ifanc, gwaith cymunedol a gwaith gydag oedolion sy’n dysgu’r iaith ond gallwn gynnig cymorth i unrhyw un, boed yn unigolion neu sefydliad sydd eisiau cymorth gyda’r Gymraeg. Mae gennym weithgareddau cyson a hefyd digwyddiadau blynyddol fel y Parêd Gŵyl Dewi yn Hwlffordd, Gŵyl y Dysgwyr a Gŵyl Fel ‘Na Mai yng Nghrymych.
Pleser i ni llynedd oedd medru cydweithio â Theatr y Torch pan ddaeth rhaglen Shan Cothi ar BBC Radio Cymru yn fyw o’r Theatr. Roedd bwrlwm rhyfeddol yn yr ystafell a nifer dda o siaradwyr Cymraeg a dysgwyr yr ardal wedi ymuno yn yr hwyl. Daeth rhai o blant Ysgol Johnston draw a nifer o bobl leol yn sôn am yr ardal ac am beth o’r hanes. Cafodd y rhaglen ymateb dda a phrofiad arbennig i ni oedd clywed pobl yn siarad Cymraeg mor frwd yn Aberdaugleddau ac yn sicr cafwyd bore i’w chofio.
Mae rhan o’n gwaith fel y soniais i uchod yn ymwneud yn agos â dysgwyr trwy gydweithio’n gyson â Dysgu Cymraeg Sir Benfro. Llynedd bûm yn rhan o drefnu rownd leol Y Cwis Mawr a drefnir rhwng Mentrau Iaith Cymru a’r Ganolfan Ddysgu Cymraeg Cenedlaethol a chafwyd noson hwyliog yng Nghlwb Rygbi Arberth. Aeth tîm buddugol y noson honno ymlaen wedyn i’r rownd derfynol ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Nhregaron a gwneud yn dda iawn er na ddaeth y wobr nôl i Sir Benfro - dim ots am hynny, roedd yr hwyl a’r profiad yn werthfawr.
Bydd Y Cwis Mawr eleni yn cael ei chynnal ar Nos Iau, 13 Gorffennaf yn Theatr y Torch ac edrychwn ymlaen at gael cyfle i ymweld â’r lle unwaith eto. Bydd y noson yn addas i ddysgwyr a gobeithio gallwn drefnu bod criw yn mynd i Ben Llyn i’r Eisteddfod Genedlaethol ar ddechrau mis Awst. Y peth pwysig yn gyntaf yw ein bod yn cael noson dda yng nghwmni ein gilydd yn Aberdaugleddau! Bydd digon i hwyl a chwerthin a chwmni da felly dewch draw i’r Theatr erbyn 7 o’r gloch er mwyn ymuno mewn cwis a chyfle i siarad neu ymarfer Cymraeg - bydd croeso mawr yn eich disgwyl.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.