RAIN POURS LIKE COFFEE DROPS

Mewn byd lle rydyn ni bob amser yn rasio, mae'r cyflymder yn cynyddu ac mae bywyd yn brysur, mae Rain Pours Like Coffee Drops yn cynnig eiliad o lonyddwch ym mhrysurdeb ein bywydau gwaith. Mae hon yn sioe ar gyfer y rhai sydd wedi llosgi pob pen, y rhai dan straen a'r bobl sy'n teimlo'n ddiwyneb yn y gweithle.

Daw’r artist symudiad rhyngddisgyblaethol adnabyddus Billy Maxwell Taylor â’r profiad theatr symud synhwyraidd hwn, gan gyfuno coreograffi wedi’i ysbrydoli gan y tywydd, piano amgylchynol toreithiog a myfyrdodau ar ein bywydau gwaith prysur i Theatr y Torch ar ddydd Mercher 15 Mawrth am 7pm.

Gydag 1 o bob 5 o bobl yn teimlo fel nad oes modd iddynt reoli straen yn y gweithle, mae'r darn hwn ar gyfer y rhai sydd am ail-werthuso eu perthynas â gwaith neu'r rhai sy'n dymuno cymryd peth amser i ymlacio a bod yn llonydd.

Mae Billy yn ymdrechu i ysbrydoli llonyddwch a theimlad mewn byd sy'n symud. Fel coreograffydd a chyfarwyddwr, mae wedi creu gwaith yn Now & Then Theatre, Yos Theatre, Hijinx Theatre a Chwmni Dawns Cenedlaethol Cymru. Fel perfformiwr, mae wedi gweithio ar gyfer Frantic Assembly, Motionhouse, Divadlo Continuo a Created a Monster Theatre. 

“Fel artist symudiad ymdrechaf i greu bydoedd lle gallwn fyfyrio a chysylltu â’r byd o’n cwmpas,” meddai Billy sydd hefyd yn arweinydd artistig The Motion Pack - casgliad o weithwyr llawrydd sy'n anadlu harmoni, bywiogrwydd a chyd-bresenoldeb i gyfarfyddiadau symud cofiadwy.

Bydd Rain Pours Like Coffee Drops yn ymweld â Theatr y Torch ar ddydd Mercher 15 Mawrth am 7.00pm. Tocynnau yn £10.00. £8.50 consesiynau. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk. Yn addas ar gyfer 12+.

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.