Q&A with Amelia and Ceri Mears

Amelia aka Crystal

Fyddi di’n aros i fyny ar noswyl Nadolig i weld Santa?

Wrth gwrs na fydda i Byddaf yn gynnes yn y gwely yn aros i Santa ddosbarthu fy holl anrhegion. Dw i'n caru hud y Nadolig!

 

Beth yw dy hoff fwyd Nadolig na fyddet byth yn ei rannu gydag unrhyw un?

Dw i'n caru, caru, caru brechdanau twrci ar Ŵyl San Steffan. Dylid gwneud defnydd o bopeth dw i'n ddweud!

 

Beth yw dy hoff garol Nadolig a pham?

Mae'n rhaid mai The Bleak Midwinter yw fy hoff garol Nadolig. Mae bob amser yn gwneud i mi deimlo mor Nadoligaidd.

 

Pe fyddet yn ennill y loteri, ble fyddet ti’n dewis dathlu'r Nadolig?

Byddwn yn dewis dathlu gartref o hyd! Mae’n debyg y byddwn i’n defnyddio’r arian i gael anrhegion cŵl iawn i fy nheulu!

 

Wyt ti’n siopa yn yr arwerthiannau neu a oes well gennyt guddio rhag y torfeydd?

Dw i bob amser yn hoff iawn o arwerthiant da ond dwi'n meddwl bod y rhai Nadolig yn denu gormod o bobl. Mae'n debyg y byddaf yn aros adref gyda phaned yn lle hynny.

 

 

Ceri Mears aka Gertrude

Wyt ti’n hoffi'r Nadolig?

Dw i'n caru'r Nadolig! Mae'n ymwneud â theulu, ffrindiau a bwyd ffein iawn!

Wyt ti’n mwynhau siopa Nadolig?

Yn bendant nid yn y siopau. Roeddwn i'n fabwysiadwr cynnar o ran siopa ar-lein - ychydig o gliciau ac mae'r cyfan wedi'i wneud!

Wyt ti’n un sy’n barod ar gyfer y Nadolig neu a wyt ti’n gadael popeth tan y funud olaf un?

Gan fy mod i fel arfer yn gweithio oddi cartref yr adeg yma o’r flwyddyn, mae’n rhaid i fy mhartner wneud y goeden a’r addurniadau. Diolch byth, mae hi'n wych yn gwneud hyn.

Beth yw’r anrheg Nadolig gwaethaf i ti gael erioed?

Tâp VHS (amser maith yn ôl) o fand o'r enw Orange Juice (dywedais ei fod amser maith yn ôl!) y byddai fy ffrind yn ei roi i mi bob Nadolig, dim ond i mi ei roi yn ôl iddo y flwyddyn ganlynol!

A wnei di rannu gyda ni rhai o’r anrhegion yr hoffet eu cael gan Santa eleni?

 Dw i wir am un o'r pethau pigyn dannedd chwistrellol yna sy'n chwythu dŵr rhwng dy  ddannedd yn lle gorfod eu fflosio. Dw i wrth fy modd â theclyn!

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.