TORCH THEATRE COMPANY PRESENTS PRIVATE LIVES
Mae Theatr y Torch Aberdaugleddau yn paratoi ar gyfer chwistrelliad o hudoliaeth y 1930au yr hydref hwn diolch i ddewis y Cyfarwyddwr Artistig newydd Chelsey Gillard o’i chynhyrchiad cyntaf ers olynu Peter Doran. Yn awyddus i ddarparu noson hudolus o ddoniol i gynulleidfaoedd i godi calonnau pawb yn ystod dyddiau tywyll mis Hydref, mae Gillard wedi gadael ei genre arferol o ysgrifennu newydd i chwistrellu tro modern i gampwaith comedi Noël Coward, Private Lives. Mae’r comedi tywyll ffrwydrol yn addo noson allan hynod ddoniol i gynulleidfaoedd gyda’i dadansoddiad ffraeth bythol o ryw, priodas a chonfensiwn cymdeithasol gyda rhai awgrymiadau rhy gyfarwydd o ymddygiad drwg.
Nid yn unig y mae Private Lives yn nodi ymddangosiad cyntaf Chelsey fel cyfarwyddwr ar gyfer y Torch, ond adlewyrcha hefyd cyfeiriad eang, deniadol a modern y mae’n awyddus i’w cyflwyno i’w rôl newydd.
Meddai Chelsey:
“Rwyf wedi edmygu gwaith Peter Doran a thîm y Torch ers hir amser. Mae’n fraint i mi barhau i chwilio am ffyrdd newydd o arloesi ac estyn allan i gynulleidfaoedd, cyfranogwyr ac artistiaid ar draws Aberdaugleddau, Sir Benfro a thu hwnt. Bydd ein safbwynt modern ar Private Lives, rwy’n gobeithio, yn apelio at ystod eang o bobl – efallai y bydd fy nghydweithwyr yn y diwydiant wedi’u synnu gan fy newis o ddrama ac edrychaf ymlaen at rannu’r cynhyrchiad cyffrous a doniol hwn ochr yn ochr â thîm gwych o actorion, dylunwyr a chriw!
“Ein bwriad yw cynnal noson allan wych i bobl – rydym hyd yn oed yn cynnal ciniawau thema gyda chaneuon byw o’r oes i’r rhai sy’n awyddus i gael ychydig o hudoliaeth ychwanegol. Byddem wrth ein bodd yn gweld cynulleidfaoedd wedi’u gwisgo yng ngwisgoedd y 1930au yn barod i sipian eu Martini a chael eu trochi yn set art deco ysblennydd y Dylunydd Kevin Jenkins – mae’n mynd i syfrdanu cynulleidfaoedd a’n cludo oll i gyfnod hynod ddirywiedig - dihangfa berffaith o ddiwrnod tywyll yr Hydref!"
Yn dilyn campau cwpl sydd wedi ysgaru sy'n mynd i ystafelloedd gwestai cyfagos tra ar fis mêl gyda'u partneriaid newydd, mae'r comedi hoffus hwn o foesau yn dal mor berthnasol, 100 mlynedd ar ôl iddo gael ei ysgrifennu gyntaf. Er hynny, gall ymddangosiadau fod yn dwyllodrus ac mae llawer yn digwydd o dan yr wyneb sy’n tanio sgwrs ddiddorol am ddiwylliant heddiw a’r safonau ymddygiad a osodwn sydd weithiau’n rhagfarnllyd.
Esboniodd Chelsey:
“Mae’r cymeriadau yn y ddrama hon sy’n ein swyno ac yn darparu cymaint o adloniant hefyd yn ymddwyn yn ysgytwol ac yn hunanfeddiannol. Daw trais i’r amlwg fel rhywbeth sy’n cyfateb i’r chwant difeddwl ac mae’r ddrama dair act yn mynd â chynulleidfaoedd ar siwrnai garu-casau chwim.
“Heddiw, mae’r papurau newydd yn parhau i fod yn orlawn o sgandalau ac fel cymdeithas rydyn ni’n ysu am fanylion am gwympiadau proffil uchel. Er enghraifft, roedd y storm ddiweddar yn y cyfryngau o amgylch Johnny Depp ac Amber Heard yn cyflwyno'r ddau am ymddwyn yn warthus ond roedd ymateb y cyhoedd yn gymysg - ydyn ni'n anwybyddu camweddau'r rhai rydyn ni'n eu hedmygu? Mae’n adlais o gynhyrchiad chwedlonol Private Lives gyda Richard Burton ac Elizabeth Taylor – roedd cynulleidfaoedd ar y pryd wedi’u swyno gan y tebygrwydd gwarthus rhwng eu cymeriadau a’u campau eu hunain oddi ar y sgrin. Gobeithiaf fod ein sioe yn tanio golwg ddiddorol ar bwy rydyn ni’n caniatáu i ni ein swyno ac nad yw’r hyn a welwch bob amser yr hyn a gewch!”
Rheda Private Lives am dair wythnos yn Theatr y Torch, Aberdaugleddau, gan agor ddydd Mercher 4ydd Hydref (noson y wasg, dydd Iau 5ed) tan ddydd Sadwrn 21 Hydref ac mae’n falch o fod yn rhan o Ŵyl COWARD125 gan Sefydliad Coward, sef dathliad dwy flynedd o fywyd rhyfeddol Coward yn y cyfnod cyn ei ben-blwydd yn 125 yn 2024.
I archebu tocynnau, ewch i Swyddfa Docynnau Theatr y Torch https://www.torchtheatre.co.uk/private-lives/ neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.