Drama Un Ddynes Afaelgar Suzie Miller yn dychwelyd i sinemâu

Os gwnaethoch chi fwynhau’r cynyrchiadau theatr Fleabag, Vanya a Hedda Gabbler neu’r gyfres deledu Doctor Foster neu Killing Eve, yna mae cynhyrchiad y National Theatre o Prime Facie gan Suzie Miller yn addas ar eich cyfer. Peidiwch â cholli ymddangosiad cyntaf syfrdanol Jodie Comer yn y West End yma ar sgrin sinema Theatr Torch ar 19 Medi.

Justin Martin sy'n cyfarwyddo'r ddrama rymus hon, y cynhyrchiad NT Live a gafodd ei wylio fwyaf erioed. Wedi’i ffilmio’n fyw o Theatr Harold Pinter yn 2022, mae Prima Facie yn dychwelyd i’n sgriniau sinema gan ddilyn ôl troed y bargyfreithiwr ifanc, disglair, Tessa. Wedi gweithio ei ffordd i fyny o wreiddiau dosbarth gweithiol i fod ar frig ei gêm; amddiffyn; wrth groesholi ac ennill, mae digwyddiad annisgwyl yn ei gorfodi i wynebu'r llinellau lle mae pŵer patriarchaidd y gyfraith, baich y prawf a moesau’n crwydro.

Wedi derbyn adolygiadau gwych gan bapurau dyddiol mawr gan gynnwys y Telegraph – ‘West End debuts don't come much more astonishing than this' a gyda'r Evening Standard yn dyfarnu y ddrama un fenyw pedair seren ac yn ei disgrifio fel ‘An extraordinarily gutsy and rich performance by Jodie Comer,' nid ydych am golli'r dangosiad cyfareddol hwn.

Bydd Prima Facie yn ymddangos ar sgrin cinema Theatr Torch ar nos Iau 19 Medi am 7pm. Pris tocyn: £15 / Consesiwn: £13 ac o Dan 26: £8.50. I archebu eich tocynnau neu am wybodaeth bellach, cysyllwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.