Pop Party yn Cyflwyno Caneuon gan Little Mix, Taylor Swift, Harry Styles a llawer mwy yn y Torch!

Paratowch ar gyfer ffrwydrad syfrdanol o gerddoriaeth, dawns, a chyffro pur wrth i Pop Party berfformio ar lwyfan Theatr Torch! Mae'r cyngerdd byw gwefreiddiol, sydd wedi'i wneud yn arbennig ar gyfer plant, yn dod â'r caneuon TikTok diweddaraf yn fyw mewn perfformiad bywiog a deniadol.

Mae’r sioe yn cynnwys caneuon ar frig y siartiau gan gynnwys Little Mix, Taylor Swift, Harry Styles, Lizzo, Meghan Trainor, Billie Eilish, Ed Sheeran, Charlie Puth a mwy. Mae’n argoeli i fod yn brofiad ymdrochol a bythgofiadwy i blant a theuluoedd ar draws y DU.

Mae Pop Party yn daith gyngerdd drydanol sy’n dathlu byd bywiog cerddoriaeth bop. Gan ddod â chasgliad amrywiol o draciau poethaf TikTok at ei gilydd, mae’r sioe hon yn creu rhestr chwarae gyffrous a fydd yn annog plant (ac oedolion!) i ddawnsio yn eiliau’r Torch.

O anthemau pop heintus i faledi grymusol merched, mae ein ensemble deinamig o Party Poppers yn perfformio datganiadau syfrdanol o ganeuon ar frig y siartiau, gan danio’r llwyfan gyda’u hegni, brwdfrydedd, a charisma.

Yn cynnwys y caneuon poblogaidd diweddaraf gan TikTok, mae Pop Party yn gwahodd plant a theuluoedd i gyd-ganu, dawnsio'n rhydd, a chofleidio llawenydd cerddoriaeth gyda'i gilydd. O alawon pop teimladwy i anthemau ysbrydoledig, mae pob cân yn cyfleu neges bwerus o hunanfynegiant, hyder, a phositifrwydd.

Mae’r Pop Party yn brofiad rhyngweithiol sy’n annog aelodau o’r gynulleidfa i ddawnsio fel nad oes neb yn eu gwylio! Bydd plant yn cael cyfle i ryddhau eu seren roc fewnol, gan ganu a dawnsio ochr yn ochr â'u hoff bwerdai pop.

Gan deithio ar draws theatrau’r DU, mae Pop Party yn creu atgofion bythgofiadwy i blant a theuluoedd ym mhob tref. Felly, paratowch i ollwng yn rhydd, i ganu ar dop eich llais, a dawnsio fel nad oes neb yn gwylio – yma yn Sir Benfro!

Mynnwch eich tocynnau heddiw a byddwch yn rhan o gyngerdd plant mwyaf y flwyddyn!

Bydd Pop Party ar lwyfan Theatr Torch ar ddydd Mercher 7 Awst am 2pm. Tocynnau: £16.00. I archebu eich tocynnau neu am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.