YN GALW AR HOLL YMARFERWYR THEATR IEUENCTID A HWYLUSWYR CYMUNEDOL!
Ydych chi'n Ymarferydd Theatr Ieuenctid, yn athro Drama neu'n Hwylusydd Cymunedol yn Sir Benfro / Gorllewin Cymru?
Os ydych chi'n gweithio gyda phobl ifanc neu gymunedau gan ddefnyddio theatr, drama neu gelfyddydau perfformio eraill hoffem eich gwahodd i ‘Ddydd Chwarae’.
Dewch i ymuno â ni yn Y Torch i rannu rhai gemau ac ymarferion mewn sesiwn hwyliog dan arweiniad y Cyfarwyddwr Artistig newydd Chelsey Gillard. Yn ystod y sesiwn achlysurol hon caiff pawb eu gwahodd i gynnal ymarfer a rhannu syniadau fel y gallwn oll ychwanegu rhywbeth newydd at ein pecynnau cymorth. Wrth i ni adnewyddu ein gwaith Theatr Ieuenctid ac Ymgysylltu Cymunedol yn y Torch rydym yn awyddus i wneud cysylltiadau newydd a dysgu am y gwaith gwych sy'n digwydd yn Aberdaugleddau, Sir Benfro a'r rhanbarth yn ehangach.
Dyddiadau ac Amserau: Dydd Mawrth 9fed a dydd Mercher 10fed o Awst, 6.00pm – 7.30pm, Theatr y Torch, Aberdaugleddau.
I gofrestru eich diddordeb, neu am fwy o wybodaeth, e-bostiwch marketing@torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.