PHIL OKWEDY: THE GODS ARE ALL HERE

Wedi’i syfrdanu wedi iddo ddarganfod cyfres o lythyrau oddi wrth ei dad yn Nigeria at ei fam yng Nghymru, mae The Gods Are All Here yn berfformiad cymhellol, doniol a chynnes, un dyn gan storïwr o’r radd flaenaf, Phil Okwedy. Bydd Phil, mewn cydweithrediad â Theatrau Sir Gâr, yn perfformio yn Theatr y Torch nos Wener, 27 Ionawr.

Mae’r sioe adrodd straeon cyfareddol yma, a ariennir gan Lywodraeth Cymru, yn plethu chwedlau, cân, chwedlau gwerin a chwedlau gwasgariad Affricanaidd yn fedrus gyda stori bersonol ryfeddol sy’n datgelu profiadau Phil o dyfu i fyny yn blentyn o dreftadaeth ddeuol yng Nghymru yn y 1960au a’r 70au.

Wrth olrhain amser bywyd pan ddywedir bod plant yn gweld eu rhieni fel duwiau, ond nad ydynt erioed wedi byw gyda nhw mewn gwirionedd, mae Phil o Gaerdydd ond a godwyd gan ei fam faeth hirdymor yn Sir Benfro yn ystyried ai ei rieni oedd ei dduwiau a ddychmygodd mewn gwirionedd…

Gan archwilio cydraddoldeb, rhyddid, hiliaeth, teulu a thyfu i fyny heb eich rhieni biolegol, mewn perfformiad teimladwy a doniol, byddwch yn darganfod bod The Gods Are All Here yn oesol ac yn stori o’r presennol!

Mae cynulleidfaoedd wedi cael eu syfrdanu gyda’i sioeau adrodd straeon gydag un aelod o’r gynulleidfa yn disgrifio talent Phil fel “Gwych, yn cyfuno straeon personol, traddodiadol ac wedi'u hail-ddychmygu mewn ffordd unigryw. Yn deimladwy ac yn afaelgar iawn drwyddi draw, rydych chi bob amser eisiau gwybod 'beth sy'n digwydd nesaf'.”

Mae Phil Okwedy The Gods Are All Here yn cael ei chyfarwyddo gan Michael Harvey ac fe'i hariennir gan Gyngor Celfyddydau Cymru. Mae prif gwmni cynhyrchu adrodd straeon y DU, Adverse Camber (Dreaming the Night Field / Hunting the Giant’s Daughter) yn falch iawn o fod ar daith y cynhyrchiad hwn gan weithio ochr yn ochr â Phil.

Meddai Phil: “Wrth i mi ddatblygu fel storïwr, daeth amser pan oeddwn yn teimlo'n barod i adrodd myth ond ni allwn ddod o hyd i unrhyw un a oedd yn cyseinio gyda mi. Felly, dechreuais blethu straeon personol a theuluol gyda chwedlau fel rhyw fath o ymarfer creu mythau. Pan ddes i o hyd i’r llythyrau yn fflat fy mam ar ôl ei marwolaeth, roeddwn i’n teimlo bod angen gwneud mwy gyda nhw na dim ond eu darllen ond doeddwn i ddim yn storïwr eto ac felly doedd gen i ddim syniad beth allai hwnnw fod.

“Nawr, wrth rannu’r sioe hon fy mwriad yw ei bod yn atseinio gyda phobl eraill, gyda’u straeon teuluol unigol ond hefyd gyda’r gynulleidfa gyfan, oherwydd trwy gydweithio y byddwn yn sicrhau y caiff cydraddoldeb, cyfiawnder a rhyddid eu profi gan bawb.”

Sylwer: Nid yw’r sioe hon yn addas ar gyfer rhai dan 12 oed gan ei bod yn trafod cael eich magu gan rieni maeth. Mae yna hefyd straeon am gaethwasiaeth sy’n cynnwys disgrifiadau o drais, ac mae’r sioe yn cynnwys iaith wahaniaethol.

Bydd Phil Okwedy The Gods Are All Here yn ymweld â Theatr y Torch ar nos Wener 27 Ionawr am 7.30pm. Tocynnau: £12 / £10 consesiwn. Gellir archebu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu torchtheatre.co.uk.

Sykwer: Nid yw’r sioe yn addas ar gyfer rhai dan 12 oed gan fod y sioe yn trafod cael eich magu gan rieni maeth. Mae yna hefyd straeon am gaethwasiaeth sy’n cynnwys disgrifiadau o drais, ac mae’r sioe yn cynnwys iaith wahaniaethol.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.