Phi Polychroma – Arddangosfa Gelf gan Owen Hart

Arddangosfa Gelf Phi Polychroma yw penllanw wyth mlynedd o waith peintio gan yr artist Owen Hart o Sir Benfro. Yn fwriadol amwys, mae ei baentiadau’n cymryd eu bywydau eu hunain, mae’r myrdd o ffurfiau a lliwiau daearol o wyrddni, orennau, glas, melyn a themâu sy’n ein hatgoffa o natur, geometreg a breuddwydio, oll yn dod at ei gilydd i greu darnau hyfryd o gelf.

Gan ddefnyddio sbectrwm cromatig llawn, mae paentiadau Owen yn ceisio harmoni mewn cyferbyniad a chydbwysedd rhwng gwrthgyferbyniadau boed hynny rhwng lliwiau cyflenwol, cromliniau a llinellau syth neu arlliwiau golau a thywyll, gyda’r lliwiau daearol yn deillio o harddwch naturiol ac amgylchedd y sir.

“Rwyf wedi bod yn adeiladu tuag at yr arddangosfa hon ers blynyddoedd lawer, gan gynnal ymarfer peintio ochr yn ochr ag addysgu amser llawn. Dyma fydd y tro cyntaf i mi arddangos fy ngwaith yn y Torch a bydd cael gwerth wyth mlynedd o baentiadau mewn un ystafell yn bleser pur I mi. Hon fydd fy sioe unigol gyntaf yn Sir Benfro felly rwy’n gyffrous i fod yn arddangos fy ngwaith yno,” meddai’r athro a tad i ddau blentyn, Owen o Hwlffordd.

Yn ei fywyd gwaith, mae Owen yn gefnogwr mawr o ymgysylltiad cymunedol ac yn hyrwyddo pwysigrwydd GOFAL (CARE) - Cymuned, Celfyddydau, Ymchwil ac Addysg. Yn 2018 cydsefydlodd Owen fenter gymunedol dros dro, Fair Play Board Game Cafe, lle mae pobl yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn amser chwarae iachus heb fod o flaen sgrin.

Mae gan Owen angerdd am hunan-ddarganfod trwy greadigrwydd ac archwilio ffyrdd newydd o addysgu a dysgu yn yr 21ain ganrif. Mae’n eiriolwr dros flaenoriaethu doniau cynhenid ​​pob unigolyn, ac yn eu helpu i ddod o hyd i’w cryfderau a’r ymdeimlad o bwrpas ac ystyr, gan symud oddi wrth y pwyslais ar safoni, yn enwedig yn y sector addysg.

“Dylai pobl ddilyn eu hangerdd dros lesiant a chyflawniad mewn bywyd. Rwyf wedi rhyfeddu’n ddi-ddiwedd â’r byd o syniadau a’n dealltwriaeth gynyddol o’r ieithoedd a phatrymau dirgel a chymhleth sydd i’w canfod ym myd natur. Gobeithiaf ysbrydoli chwilfrydedd mewn eraill gyda chymysgedd o ffurfiau, lliwiau a chysyniadau yn fy mhaentiadau,” meddai Owen, sydd ers symud i Sir Benfro, wedi gweld ei gariad at beintio yn ailgynnau, ac mae’n archwilio lliw a chelfyddyd haniaethol.

Wedi’i ysgogi gan frwdfrydedd i estyn allan at blant o bob oed, mae’n frwd dros ddysgu trawsgwricwlaidd ac yn archwilio syniadau’n chwareus drwy’r broses o greu celf. Mae hyn yn galluogi profiadau addysgol o ansawdd uchel i bobl ifanc a meithrin mwy o ymdeimlad o hunan-barch, gweledigaeth llawn dychymyg a llesiant creadigol.

Yn ei baentiadau, mae Owen yn aml yn defnyddio gridiau, geometreg a rhifau wrth strwythuro maes chwarae creadigol, ac yn rhannu'r broses yn gamau hylaw; y llawenydd o gymysgu a chymhwyso lliwiau bywiog, sgwâr wrth sgwâr, ar hyd llwybrau troellog a wnaed gan fdilyniant Fibonacci.

Disgrifia Owen y gyfres hudol hon fel: “Dilyniant rhyfeddol o rifau a sy’n cael eu creu’n syml trwy adio bob rhif yn gyson at y rhif blaenorol i gynhyrchu'r rhif nesaf. O’i ehangu’n ddimensiynol, mae’r dilyniant hwn o rifau yn arwain at sgwariau a phetryalau sydd wedi’u nythu’n ddi-ben-draw a’u cloi mewn cymhareb ‘aur’ a elwir yn phi, rhif afresymol sy’n dod allan o’r dilyniant Fibonacci yn y llwybrau troellog sydd i’w gweld ym mhob rhan o fyd natur, ym mhatrymau twf blodau’r haul, moch coed a chregyn i enwi ond rhai enghreifftiau.

Mae Arddangosfa Gelf Phi Polychroma gan Owen Hart yn agor yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch, ar ddydd Mercher 5 Chwefror tan ddydd Gwener 28 Chwefror. Gellir gweld yr arddangosfa yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau.

Am fwy o wybodaeth ewch i www.owenhart.co.uk / www.torchtheatre.co.uk neu ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 a byd y staff cyfeillgar yno yn hapus i’ch helpu. 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.