TYMOR O DDATHLU WRTH I YRFA DDISGLAIR DDOD I BEN
Bydd y Llenni’n Disgyn ar Yrfa Ddisglair Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch
Heddiw, fe gyhoeddodd Theatr y Torch y bydd Peter Doran yn rhoi’r gorau i’w swydd fel Cyfarwyddwr Artistig ddiwedd mis Rhagfyr, a hynny’n dilyn 25 mlynedd anhygoel. Ail-ymunodd Peter â’r cwmni ym 1998 fel Cyfarwyddwr Artistig ar ôl bod yn un o aelodau gwreiddiol Cwmni Theatr y Torch nôl ym 1977 pan agorodd y theatr ei drysau am y tro cyntaf.
Mwynhaodd Peter yrfa lwyddiannus fel actor, gan wneud dros 50 o ymddangosiadau ar y teledu a pherfformio mewn theatrau ar hyd a lled y wlad cyn troi ei law at gyfarwyddo. Mae wedi bod yn gyfrifol am 70 o gynyrchiadau Theatr y Torch tra oedd wrth y llyw. Yn 2008, goruchwyliodd y gwaith o ailddatblygu’r Torch mewn prosiect gwerth £5.8 miliwn a drawsnewidiodd y theatr yn ganolfan gelfyddydau aml-leoliad ar gyfer Sir Benfro.
Fel cyfarwyddwr dros y 25 mlynedd ddiwethaf, mae Peter wedi ennill clod beirniadol a pharch ei gyfoedion, gan ennill sawl gwobr gan gynnwys y Cyfarwyddwr Gorau yng Ngwobrau Theatr Cymru ar gyfer y cynhyrchiad dwyieithog Belonging/Perthyn yn 2017, a dwy Wobr Laurel yng Ngŵyl Fringe Caeredin ar gyfer Grav ac Oh Hello! yn 2015. Gan arwain dathliadau pen-blwydd Theatr y Torch yn 40 yn 2017, roedd cynhyrchiad Peter o One Flew Over the Cuckoo’s Nest yn cael ei ystyried yn eang fel un o’r cynyrchiadau gorau a lwyfannwyd erioed yn y Torch. Yn fwy diweddar, mae Peter wedi camu i’r llwyfan eto, gan ddiddanu cynulleidfaoedd â rhannau cameo, gan gynnwys yr ‘Alfie’ doniol yn One Man, Two Guvnors.
Mae’r bartneriaeth greadigol gyda’r awdur Owen Thomas a’r actor Gareth John Bale gyda Peter fel cyfarwyddwr wedi gweld un o lwyddiannau rhyngwladol diweddaraf y theatr Gymreig gyda Grav. Mae’r ddrama wedi’i pherfformio dros 100 o weithiau, gan gynnwys yn Efrog Newydd a Washington, lleoliadau y gwerthwyd pob tocyn ar eu cyfer ar draws Cymru a gweddill y DU ac yn 2021 fe’i troswyd yn ffilm hyd nodwedd ar gyfer S4C. Perfformiwyd Grav hefyd i Dîm Rygbi Dynion Cymru ar drothwy gêm agoriadol y Guinness 6 Gwlad 2019 yn Stadiwm Principality, gan brofi’n ysbrydoliaeth i Gamp Lawn Cymru’r flwyddyn honno! Yn y misoedd diwethaf mae Peter wedi bod yn ymwneud unwaith eto y tu ôl i’r llenni gydag Owen a Gareth, yn datblygu cynhyrchiad diweddaraf Theatr y Torch, sef Carwyn.
Meddai Peter:
“Rwyf wedi cael 25 mlynedd anhygoel yn arwain y mudiad hwn ac wedi cael y fraint o weithio gyda chymaint o bobl wych, ar yr ochr artistig a gyda’r tîm staff yn y Torch, yn ogystal â’n gwirfoddolwyr, sydd oll wedi bod yn hynod o ffyddlon i mi ac i'r Torch. Rydw i wedi mwynhau gweithio bob munud gyda phawb.
Mae 25 mlynedd yn amser hir ac yn dilyn cyfnod tawel y pandemig lle bȗm ar gau am 18 mis, llwyddais i gael cyfnod o hunanfyfyrio a theimlais mai nawr yw’r amser ar gyfer gweledigaeth newydd ac egni newydd ac i’r perwyl hwnnw dros y misoedd nesaf, bydd y Cyfarwyddwr Gweithredol, Benjamin Lloyd a’r tîm yn ceisio dod o hyd i fy olynydd.”
Dywedodd Carol Mackintosh, Ymddiriedolwr Theatr y Torch a chyn Gadeirydd y Bwrdd:
“Diolch i ymdrechion dyfal ond penderfynol Peter a’i ddealltwriaeth o le’r Torch yn ein rhan ni o Gymru mae’r theatr wedi datblygu o fod yn ddiwydiant cartref i fod yn lleoliad celfyddydol uchel ei barch. Dros y pum mlynedd ar hugain o arweinyddiaeth Peter, hyd yn oed pan aeth pethau’n anodd nid oedd erioed amheuaeth ynghylch ei ymrwymiad i’r Torch a’i angerdd drosti. Mae wedi bod yn fraint enfawr i mi fod ar y Bwrdd yn gweithio gydag ef yn ystod y cyfnod hwn.”
Ychwanegodd Cyfarwyddwr Gweithredol a Phrif Weithredwr Theatr y Torch Benjamin Lloyd:
“Gadawa Peter hôl annileadwy ar wead a hunaniaeth y Torch ac mae wedi darparu llwyfan cadarn er mwyn adeiladu sefydliad arno ar gyfer y dyfodol, ac rwy’n ddiolchgar am yr amser byr rydyn ni wedi’i gael yn cydweithio, er bod hynny yn y mwyaf rhyfedd o adegau trwy gydol y pandemig. Mae creadigrwydd, egni a gweledigaeth Peter wedi trawsnewid y Torch ar hyd y blynyddoedd i fod yn ganolfan fywiog i’r Celfyddydau fel y mae heddiw. Mae cenhedlaeth o artistiaid, cwmnïau a gweithwyr llawrydd mewn dyled fawr i Pete ac mae’r Torch o dan ei arweiniad a’n cymuned wedi elwa mewn ffyrdd di-fesur. Ar ran y Bwrdd, ein staff yma yn y Torch a’n tîm o wirfoddolwyr, hoffwn ddiolch o galon i Peter. Byddwn yn gweld eisiau ei bositifrwydd a’i arbenigedd pan ddaw’r amser, a dymunwn y gorau iddo am ymddeoliad hir a boddhaus. Ond yn y cyfamser, mae gennym ni lawer i’w gyflawni gyda’n gilydd, ac rydyn ni’n bwriadu gwneud y mwyaf o dymor olaf cyffrous Pete gyda ni.”
Dywedodd Cadeirydd Bwrdd Ymddiriedolwyr Theatr y Torch, y Cynghorydd Rhys Sinnett ymhellach:
“Dymuna holl aelodau presennol a chyn-aelodau’r Bwrdd sydd wedi gweithio gyda Peter y gorau iddo ar gyfer y dyfodol. Rydym yn diolch iddo am bopeth y mae wedi’i gyflawni i wneud y Torch yr hyn y mae heddiw. Rhaid i ni nawr edrych ymlaen at recriwtio Cyfarwyddwr Artistig newydd i ddatblygu a chyflawni ein gweledigaeth gyffrous ac eang ar gyfer y dyfodol ac mae’r broses honno’n dechrau nawr.”
Mae 2022 yn nodi 45 mlynedd ers sefydlu Theatr y Torch ac mae’n ymddangos braidd yn addas y bydd Peter yn gorffen ei yrfa yn y Torch mewn blwyddyn mor nodedig. Ni fydd Peter yn ffarwelio’n dawel, a bydd y Torch yn cynnal tymor arbennig i ddathlu ei flwyddyn olaf fel Cyfarwyddwr Artistig. Bydd Grav ac Angel yn mynd i Ŵyl Fringe Caeredin yn yr haf. Peter fydd yn cyfarwyddo cynhyrchiad Hydref y theatr (manylion i’w cyhoeddi’n fuan) yn y prif dŷ a bydd yn ysgrifennu a chyfarwyddo’r Pantomeim Nadolig, Sleeping Beauty, sef ei sioe olaf. Mae’n ddigon posib y bydd ambell i syrpreis arall ar hyd y ffordd yn yr hyn a fydd yn ddathliad o yrfa hirfaith a disglair yn y celfyddydau.
Dros y misoedd nesaf, gwelwyd recriwtio ar gyfer olynydd Peter, gyda rhagor o fanylion i ddilyn chwap. Croesewir datganiadau o ddiddordeb ar gyfer y rôl: cysylltwch â Benjamin Lloyd drwy e-bost ben@torchtheatre.co.uk am sgwrs anffurfiol gyfrinachol.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.