COT FREUDDWYD AMRYLIW SIR BENFRO YN THEATR Y TORCH
Bydd terfysg o liw yn eich croesawu yn Arddangosfa Unigol A.K.A. Stanly yn Oriel Joanna Field, Theatr y Torch yn ystod mis Awst. Bydd paentiadau gan A.K.A Stanly yn mynd â chi ar daith o amgylch arfordir Sir Benfro, ei fflora a’i ffawna, mewn sblash o liw hynod o drwchus.
Magwyd Mark Stanmore (A.K.A. Stanly) yn Sir Benfro a datblygodd berthynas synesthetig â golygfeydd, synau ac arogleuon gorllewin gwyllt Cymru. Dechreuodd arlunio yn ifanc ac yn hwyrach canfu ei angerdd mewn peintio. Yna aeth ymlaen i astudio Celf a Dylunio ar lefel Sylfaen, ac yna ymhen amser, graddioiodd gyda B.A. (Anrh) mewn Ffotograffiaeth Ddogfennol, o Brifysgol Cymru, Casnewydd. Er hynny, ei gariad creadigol go iawn, yw peintio.
Daw ymatebion yr artist i fanylion yr arfordir yn ddofn oddi mewn iddo a’i ganfyddiad o wylltinebau mawreddog Sir Benfro. Mae rhinweddau esthetig y paentiadau hyn yn adlewyrchu'r syniad Japaneaidd o Wabi Sabi; y gwerthfawrogiad o amherffeithrwydd a harddwch diffygiol. Trwy adael peth o’r cynfas yn y golwg neu adael i’r tanbeintio ddangos drwodd mewn mannau, mae’r artist yn ceisio rhannu holl brosesau ei gelf gyda’i gynulleidfa. Gan ddefnyddio’r cysyniad hwn, ei nod yw camu i ffwrdd o ddulliau traddodiadol o gelf gonfensiynol, gan gyfleu cred yr artist y dylai celf fod yn fwy hygyrch a chynhwysol i gynulleidfaoedd.
Mae croeso i gynulleidfaoedd weld gwaith Mark rhwng dydd Mawrth 1 Awst a dydd Mercher 30 2023 yn Oriel Joanna Field, Theatr y Torch, Aberdaugleddau. Cynhelir Noson Agoriadol o’r Arddangosfa Unigol ar 4 Awst o 6pm i 8pm ac mae Mark yn estyn croeso cynnes i bawb.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.