Pembrokeshire Living Coast
Ydych chi’n angerddol am fywyd gwyllt a llesiant? Yna Theatr Torch, Aberdaugleddau yw’r lle i fod ar nos Fawrth 19 Mawrth wrth i ddigwyddiad Arfordir Byw, nawr yn ei 12fed blwyddyn, archwilio agweddau pwysig o’r awyr agored yn y sir.
Mae’r digwyddiad cymunedol a gynhelir yn Theatr Torch yn noson o ddathlu – yn dathlu bywyd morol ac arfordirol Sir Benfro. Agorwch eich llygaid wrth i arbenigwyr ddod at ei gilydd i rannu straeon am eu profiadau o weithio a byw yn yr awyr agored yng Nghymru, a sut y gall cysylltiadau â byd natur fod o fudd mawr i’n hiechyd a’n llesiant.
Mae digwyddiad ‘Arfordir Byw’ Sir Benfro yn dod â’r bywyd gwyllt ar garreg ein drws yn agosach nag erioed drwy gyfres o sgyrsiau, sioeau sleidiau, a ffilmiau fideo, i ddathlu amrywiaeth Sir Benfro. Eleni byddwch yn darganfod sut y gall cysylltu â natur a bywyd gwyllt ddod â buddion iechyd a llesiant gwych trwy waith a straeon siaradwyr gwadd gwych. Mae’r digwyddiad hefyd yn archwilio’r camau y gellir eu cymryd i ddiogelu amgylchedd Sir Benfro ar gyfer y dyfodol.
Darganfyddwch sut y gallwch chi gymryd rhan mewn prosiectau lleol, dysgu sut mae gwneud newid cadarnhaol, neu gael eich syfrdanu gan ffotograffiaeth anhygoel - a chael eich ysbrydoli i ddechrau tynnu lluniau!
Cynhelir digwyddiad Arfordir Byw Sir Benfro 2024 yn Theatr Torch ar nos Fawrth 19 Mawrth am 7pm. Pris tocyn yn £8.00 | consesiwn £6.00. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.