Artistiaid Sir Benfro Yn Dod At Ei Gilydd I Arddangos Eu Gwaith Yn Y Torch
Bydd artistiaid sy’n arddangos eu gwaith yn Oriel Joanna Field yn Theatr Torch fis Gorffennaf eleni yn dangos eu celf a grëwyd o ddosbarthiadau Bywluniadu a Pheintio Olew 2023/24 a drefnwyd gan Sir Benfro yn Dysgu. Cynhaliwyd y dosbarthiadau hyn mewn dau leoliad gwahanol yn Sir Benfro gyda gwersi Bywluniadau yn Ninas a’r Cyflwyniad i Beintio Olew yn Hwlffordd.
Pan wahoddwyd y grŵp o artistiaid, sydd bellach yn ffrindiau mawr, i arddangos eu gweithiau, ni allent o bosibl wrthod cyfle o’r fath, a mis Gorffennaf bydd pobl sy’n ymweld ag Oriel Joanna Field yn cael gwledd artistig.
“Mae’r paentiadau olew naill ai’n fywyd llonydd, yn bortread neu’n dirwedd yn dilyn y tri thymor astudio. Rydyn ni i gyd yn artistiaid amatur, ac rydym oll yn byw yn Sir Benfro,” meddai Paul King, un o’r artistiaid.
Mae gan y grŵp o artistiaid wahanol lefelau o brofiad a gwahanol gymhellion a dyheadau. I lawer, dyma fydd eu tro cyntaf yn arddangos eu gwaith yn y Torch ac mae pob un ohonyn nhw’n frwd iawn.
Ychwanegodd Paul: “Mae’r teimlad cyffredinol yn un o gyffro mawr ond rydym hefyd yn nerfus ac yn awyddus i gynnal sioe dda. Mae Oriel Joanna Field yn oriel o ansawdd uchel sy’n denu llawer o bobl ac na fyddem fel arfer yn cael y cyfle i arddangos yno, felly rydym wrth ein bodd ein bod yn cymryd rhan.”
Gan gloi, dywedodd: “Fel grŵp, hoffem ddiolch i Theatr Torch a Sir Benfro yn Dysgu yn ogystal â Mark Deane, ein tiwtor, a’n gilydd am gefnogaeth i’r grŵp.”
Dywedodd Mark Deane, eu tiwtor yn Sir Benfro yn Dysgu, bod y gallu i ddod ynghyd fel grŵp cydlynol a chefnogol wedi bod yn wirioneddol ryfeddol.
“Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae pob un wedi dod â’u cefndir unigryw a’u hysgogiad dilys i’n taith artistig a rennir, gan gyfoethogi ein dosbarthiadau â safbwyntiau a phrofiadau amrywiol.
“Mae’r cyfeillgarwch a’r anogaeth a ddangoswyd ganddynt i’w gilydd wedi creu amgylchedd meithringar lle gall creadigrwydd a dysgu ffynnu. Mae wedi bod yn fraint ac yn bleser eu harwain drwy’r cwricwlwm, ac mae eu brwdfrydedd a’u hymroddiad wedi bod yn ffynhonnell gyson o ysbrydoliaeth i mi.
“Mae’r profiad hwn wedi arwain at gyflawniadau syfrdanol, mae’r llwyddiant yn dyst i waith caled, cydweithrediad a chefnogaeth y grŵp. Yn llythrennol ni allwn fod wedi ei wneud hebddynt. Diolch am wneud y daith hon mor werth chweil a chofiadwy.”
Ymhlith yr artistiaid sy'n cymryd rhan yn yr arddangosfa mae Paul, King, Victoria Elliott, James Miall, Sheila Davies, Graham Howard, Kila Millidine, Terry Smith, Maggie Norwell, Anna Hatton, Tina Trowell, Aline Whitaker, Andy St. Pierre, Melissa Pettitt a Philipa Kohly.
Bydd Arddangosfa Gorffennaf yn Oriel Joanna Field, Theatr Torch yn agor ar ddydd Mawrth 2 Gorffennaf tan ddiwedd y mis yn ystod oriau agor y Swyddfa Docynnau. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch gyda’r Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.