PAUL YOUNG SY'N EICH GWAHODD, I FYND TU OL I'R LENS!
Bydd Paul Young, canwr eiconig o’r 1980au, yn dathlu ei yrfa anhygoel gyda record a thaith newydd, y ddau o’r enw ‘Behind the Lens’ lle bydd yn perfformio’n fyw yn Theatr y Torch Aberdaugleddau ar ddydd Sul, 30 Ebrill 2023.
Bydd y chwedl ei hun yn perfformio ei ganeuon mwyaf poblogaidd gan adrodd straeon a wnaeth ysbrydoli’r caneuon adnabyddus, a hynny deugain mlynedd ers pan gyrhaeddod ei albwm arloesol No Parlez i Rif Un yn Siartiau'r DU.
Mae Paul Young wedi bod yn seren fawr ers pedwar degawd. Cafodd lwyddiant ysgubol 40 mlynedd yn ôl pan aeth No Parlez i rif un ac o hynny daeth hitiau eiconig megis Wherever I Lay My Hat (That's My Home), Come Back and Stay, a Love of the Common People. Daeth mwy o lwyddiant i ddilyn gyda’r albwm rhif un The Secret Of Association a’r record boblogaidd Everytime You Go Away, heb anghofio ymddangosiad yn Live Aid a mwy.
Mae’n bryd ymhyfrydu yn y caneuon poblogaidd a dysgu’r straeon y tu ôl iddynt wrth i Paul gamu allan Behind The Lens.
Mae pris y tocynnau’n dechrau’n £30.00 a Phecynnau VIP ar gael yn cynnwys y cyfle i gwrdd â Paul cyn y sioe. Mae toynnau’n gwethu’n gyflym ac ar gael yma
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.