PANTOMEIM BEAUTY AND THE BEAST YN TORRI RECORD Y SWYDDFA DOCYNNAU
Oh, am banto! Oh, am ganlyniad! Mae pantomeim 2023 Theatr y Torch, Beauty and the Beast, wedi torri record y Swyddfa Docynnau gyda dros 6450 o bobl yn dod i’w weld! Gyda Chyfarwyddwr Artistig newydd wrth y llyw, mae ei hynt a’i helynt, ei chwerthin a’i swynion mewn dwylo diogel.
Hyd yn oed gyda’r argyfwng costau byw a phobl yn ofalus am wario arian, gwelodd y pantomeim dros 35 o ysgolion a grwpiau cymunedol, teuluoedd lleol yn ogystal ag ymwelwyr â’r sir yn mynychu’r sioe deuluol – pantomeim a welodd ddigon o ryngweithio â’r gynulleidfa ac a gyflwynwyd mwy o gynnwys Cymraeg.
“Rydym am ddweud diolch mawr iawn i bawb a ddaeth i weld Beauty and the Beast. Roeddem wedi ein syfrdanu gan y nifer o bobl a ddaeth draw i fwio a chefnogi,” esboniodd Chelsey Gillard, Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch.
Mae Chelsey wrth ei bodd gyda’r gefnogaeth gan bawb a fynychodd:
“Mae wedi bod yn fraint cael rhannu ychydig o hud yr ŵyl ar ddiwedd blwyddyn anodd i gynifer. Dyma’r tro cyntaf i mi ysgrifennu a chyfarwyddo panto ac ni allaf ddiolch i’r tîm creadigol anhygoel a’r cast digon am eu gwaith anhygoel.
“Mae wedi bod yn her ar adegau, ond ‘rhaid i’r sioe fynd yn ei blaen’ sy’n golygu bod rhai ohonoch wedi bod yn ddigon ffodus i weld Swing (tanastudiaeth) Freya Dare yn camu i mewn fel yr Evil Fairy, Belle neu hyd yn oed Tad Belle! Ac am un diwrnod arbennig iawn llithrodd Lloyd Grayshon, a oedd fel arfer yn chwarae rhan Tad Belle, i ffrog bendigedig a’n diddanu oll fel y Fairy Godmother.”
Roedd y pantomeim eleni yn cynnwys nifer o actorion lleol gan gynnwys Lloyd Grayshon o Hwlffordd a Samuel Freeman o Aberdaugleddau.
Gan ddod i glo, meddai Chelsey: “Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda chymaint o bobl dalentog o Sir Benfro a de orllewin Cymru ac i ddathlu creadigrwydd ar draws y sir gyda’n cystadleuaeth dylunio gwisg. Dw i’n edrych ymlaen yn barod at fwy o wiriondeb, caneuon a gwenu ym mhanto’r flwyddyn nesaf, sef Jack and the Beanstalk!”
Mae tocynnau cyntaf i’r felin ar gyfer pantomeim 2024 o Jack and the Beanstalk ar werth yn barod yn Swyddfa Docynnau Theatr y Torch tan ddiwedd mis Ionawr eleni. Mynnwch eich tocynnau nawr!
Credyd llun: Chris Lloyd
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.