PAINTING THE MODERN GARDEN: MONET TO MATISSE

Wedi ei disgrifio fel “immersive and enriching” gan The Guardian ac fel “breathtaking detail” gan y Daily Mail, bydd cefnigwyr celf wrth eu bodd gyda Painting the Modern Garden: Monet to Matisse gan Exhibition on Screen yn Theatr y Torch fis yma.

I lawer o artistiaid gwych mae'r ardd wedi cael ei hystyried yn bwnc dymunol ar gyfer mynegiant lliw, golau ac awyrgylch. Efallai mai Claude Monet yw’r arlunydd gerddi mwyaf adnabyddus ond roedd mawrion eraill fel Van Gogh, Pissarro, Matisse a Sargent oll yn ystyried yr ardd fel ffocws ystyrlon i’w doniau.

Mae gwaith yr artistiaid gwych hyn, ynghyd â llawer o rai eraill, yn ymddangos mewn arddangosfa fawr, ‘Painting the Modern Garden’, gan Academi Frenhinol, Llundain. Mae’r ffilm ddisglair hon yn mynd ar daith hudolus o’r oriel i’r gerddi, i Giverny a Seebüll a thiroedd godidog eraill sy’n cael eu ffafrio gan artistiaid. Yma cawn ddarganfod sut y bu i artistiaid o ddechrau’r ugeinfed ganrif ddylunio a thrin eu gerddi eu hunain i archwilio syniadau a motiffau iwtopaidd cyfoes o liw a ffurf.

Meddai Monet: “Ar wahân i beintio a garddio, dw i ddim yn dda yn gwneud unrhyw beth”. I'r rhai sy'n hoff o gelf neu sy'n hoff o gerddi, mae hon yn ffilm ddelfrydol. 

Caiff Painting the Modern Garden: Monet to Matisse ei dangos yn  Theatr y Torch ddydd Sul 3 Mawrth am 4.45pm. Pris tocyn: £13. Am docynnau ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.