‘Unwaith Eto’ yn Theatr Torch

Yr wythnos hon, mae Theatr Torch yn Aberdaugleddau, yn lansio ymgyrch codi arian newydd – Unwaith Eto! Mae'r neges yn syml – pe fyddech yn ‘dod unwaith eto’ i’r Torch dros y misoedd nesaf byddai hynny’n ein helpu’n ni’n fawr i gynnal ein safle fel canolfan y celfyddydau diwylliannol yma yn Sir Benfro.

Eglurodd Ben Lloyd, Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr Torch:

“Yr adeg hon y llynedd camodd pobl leol i’n helpu a’n cefnogi i godi arian yr oedd mawr ei angen a helpodd i lenwi’r diffyg a adawyd gan doriadau mewn arian cyhoeddus. Rydym fel elusen yn hynod ddiolchgar am y gefnogaeth a gawsom a diolch i haelioni ein cymuned cawsom flwyddyn lwyddiannus. Nid ydym ar ein pennau ein hunain, rydym yn gwybod bod llawer o sefydliadau celfyddydol a ariennir yn gyhoeddus yn yr un sefyllfa. Gwyddom bellach nad yw’r sefyllfa hon yn mynd i newid a bydd angen i ni godi arian yn flynyddol. Ac felly eleni mae ein gofyn yn syml – p’un a ydych yn ymwelydd cyson â’r Torch, neu’n dod yn achlysurol, neu’n wir os nad ydych erioed wedi bod i’r Torch o’r blaen, ystyriwch ddod Unwaith Eto! oherwydd mae pob tocyn ychwanegol yn bleidlais o hyder yng ngwerth y celfyddydau a’r amrywiaeth enfawr o ddigwyddiadau a gweithgareddau rydym yn eu darparu ar gyfer ein cymuned.”

Mae cefnogi’r Torch yn fwy na mwynhau noson o adloniant yn unig; mae hefyd yn rhan o gymuned a diwylliant creadigol. Trwy fynychu Theatr Torch, yma yn Sir Benfro, am beth bynnag yr hoffech ei wneud – i weld ffilm, gwylio drama, mwynhau’r opera neu ddod i un o’n gweithdai creadigol, rydych yn cyfrannu’n uniongyrchol at fywoliaeth a bywiogrwydd y gymuned yma yn Sir Benfro.

Ychwanegodd Ben: “Mae pob theatr leol yn gweithredu ar gyllideb dynn, ac mae pob gwerthiant tocynnau yn gwneud gwahaniaeth o ran talu costau cynhyrchu, talu actorion a staff, a sicrhau goroesiad yr union theatr ei hun. Bydd dod am un digwyddiad arall nag y byddech yn ei wneud fel arfer mewn blwyddyn yn helpu i sicrhau llwyddiant cynyrchiadau’r presennol a’r dyfodol a’n holl weithgareddau cymunedol, gan gadw’r byd celfyddydol lleol yn fyw ac yn ffynnu i ni nawr ond yn bwysicach fyth, ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.”

Mae'r Torch, ers bron i 50 mlynedd, wedi bod yn fan lleol lle mae arloesedd yn aml yn dechrau. Mae’n ofod ar gyfer arbrofi, lle mae dramâu newydd yn cael eu profi a doniau newydd yn cael eu darganfod – yn enwedig yn ein Theatr Ieuenctid wych. Drwy ddod Unwaith Eto, byddwch yn cefnogi’r genhedlaeth nesaf o ddramodwyr, actorion, a chyfarwyddwyr yn ogystal â’r holl weithgareddau creadigol yr ydym yn eu darparu ar gyfer ein cymuned.

Nid rhywbeth yn unig yw mynychu cynhyrchiad theatr leol fel yr eglura Ben:

“Mae’n fuddsoddiad yng ngwead diwylliannol eich cymuned. Bob tro y byddwch chi'n mynychu, rydych chi'n meithrin amgylchedd creadigol sydd o fudd i bawb. Dewch unwaith eto, dewch â ffrind, a helpwch i gadw'r sbotolau i ddisgleirio ar dalent lleol. Eich cefnogaeth barhaus yw dyfodol y celfyddydau, gan sicrhau bod hud y theatr yn parhau i fod yn rhan fywiog o’n cymuned ar gyfer yr hen a’r ifanc fel ei gilydd.”

Yn ogystal ag ymgyrch Unwaith Eto! mae ffyrdd eraill o ddangos eich cefnogaeth drwy ddod yn Aelod o’r Torch, gwneud cyfraniad untro neu roi rhodd fisol reolaidd, noddi sedd yn eich enw am 10 mlynedd yn ein Prif Dŷ, gadael rhodd yn eich ewyllys neu, drwy roi o’ch amser a dod yn wirfoddolwr. E-bostiwch support@torchtheatre.co.uk am ragor o wybodaeth neu siaradwch â Thîm y Swyddfa Docynnau.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.