‘OF MICE AND MEN’ I DDATHLU PEN-BLWYDD Y TORCH YN 45 MLWYDD OED
Mae tipyn yn digwydd yn Theatr y Torch yr hydref hwn, yn enwedig ein cynhyrchiad mewnol ‘Of Mice and Men’ gan John Steinbeck. Wrth i’r Torch ddathlu ei phen-blwydd yn 45 oed, Of Mice and Men fydd y ddrama olaf sy’n cael ei chyfarwyddo gan y Cyfarwyddwr Artistig, Peter Doran sy’n ymddeol ddiwedd 2022 ar ôl 25 mlynedd lwyddiannus yn y Torch.
Clasur llenyddol yw Of Mice and Men, sy’n adrodd hanes emosiynol George Milton a Lennie Small, dau weithiwr di-gartref crwydrol sy’n gweithio ar ransh leol, sy’n symud o le i le yng Nghaliffornia i chwilio am gyfleoedd gwaith newydd yn ystod Dirwasgiad Mawr America’r 1930au.
Er gwaethaf ei hoedran, mae'n ddrama ar gyfer heddiw. Wedi’i gosod bron i 100 mlynedd yn ôl, mae cyffredinolrwydd awydd pobl i geisio bywyd gwell yr un mor ingol heddiw ag yr oedd bryd hynny. Mae mudo economaidd, allgáu, cyfeillgarwch, unigrwydd, hiliaeth, rhywiaeth, trais, ac agweddau at anableddau yn themâu o fewn y ddrama ac maent oll yn atseinio yr un mor gryf heddiw ag y gwnaethant pan gyhoeddwyd y llyfr gyntaf. Bydd y cynhyrchiad hwn yn dod â’r anawsterau oesol a wynebir gan ymfudwyr adref, gan roi llais i’r unig a’r di-gartref mewn drama llawn tyndra a syndod.
Wrth drafod Of Mice and Men meddai Peter Doran:
“Bydd sioe’r Hydref eleni yn nodi fy nghynhyrchiad olaf yn y Torch – wel, heblaw am y Panto ym mis Rhagfyr. O ystyried hynny, roedd y dewis o gynhyrchu wir yn benbleth i mi, ac yn un y bûm yn meddwl yn hir ac yn galed amdano. Yn y diwedd, dewisais Of Mice and Men, clasur Americanaidd gan yr enwog John Steinbeck, oherwydd mae’n stori mor berthnasol heddiw â’r diwrnod y cafodd ei hysgrifennu. Os ydych chi'n ymdrechu i gynhyrchu theatr o safon, mae eich llinell sylfaen yn stori wych ac yn fy marn i, anodd fydd maeddu’r stori hon. Gobeithiaf y gallwn wneud cyfiawnder â hi.”
Mae’r cast o naw actor proffesiynol cryf yn cynnwys sawl wyneb cyfarwydd sydd eisoes wedi bod ar lwyfan y Torch yn ogystal â chyflwyno rhai o’r actorion gorau sydd ar ddod o bob rhan o Gymru a thu hwnt. Yn cymryd y brif ran fel George mae Jâms Thomas y mae ei gredydau ffilm a theledu yn cynnwys Mr Nice, Save The Cinema, Torchwood a Casualty, yn ogystal â chymryd rôl Abanazar yma yn y Torch yn Aladdin 2019. Ochr yn ochr â Jâms, yn chwarae rhan Lennie mae Mark Henry Davies a fydd yn ymddangos yn y Torch am y tro cyntaf. Graddiodd Mark y llynedd o Goleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, ac ymddangosodd yn ddiweddar fel Phillips yn nhymor cyntaf Itopia ar S4C a BBC iPlayer.
Aelodau eraill o’r cast sy’n dychwelyd i’r Torch yw cyn-aelod Theatr Ieuenctid y Torch, Samuel Freeman (Whit), Dion Davies (Boss / Carson), Gwydion Rhys (Curly) a Dudley Rogers (Candy). Bydd Chris Bianchi (Slim), Shameer Seepersand (Crooks) ac Alexandria McCauley (Gwraig Curly) yn ymddangos am y tro cyntaf gyda Chwmni Theatr y Torch. Bydd hefyd ymddangosiad gwestai arbennig iawn gan Marloe, ci anwes Peter Doran ei hun.
Benjamin Lloyd yw Cyfarwyddwr Gweithredol Theatr y Torch. Meddai:
“Rydym yn falch iawn o ddod â’r gwaith mawr hwn i’r Torch. Mae gennym ni gast gwefreiddiol o actorion, rhai yn adnabyddus i ni ac eraill yn newydd, ac rwy’n hyderus y bydd agwedd gyffrous arferol Peter at adrodd stori wych a chymhellol, ynghyd â chynllun set wirioneddol syfrdanol, yn sicr o wneud cyfiawnder â’r peth. Wrth i ni ddathlu 45 blwyddyn y theatr yn Aberdaugleddau, rydym am ymgysylltu ein cymuned â’r stori hon ar gyfer yr oesoedd ac rwy’n annog ein cynulleidfa i ymuno â ni i weld y sioe ac i ddathlu llwyddiannau’r Torch a Peter gyda ni yr hydref hwn.”
Caiff Of Mice and Men ei dangos mewn sawl perfformiad bore a phrynhawn ar gyfer disgyblion ysgol ac yna bydd Peter Doran ac aelodau o’r cast yn siarad â’r gynulleidfa am y ddrama, ei themâu a’r profiad o berfformio’n fyw. Bydd 16 perfformiad o’r ddrama, yn rhedeg o ddydd Mercher 5 i ddydd Sadwrn 22 Hydref ar wahanol adegau, gan gynnwys perfformiad dehongli BSL ar ddydd Mawrth 11 Hydref gyda’r cyfieithydd Liz May.
Mae tocynnau’n costio £20.50, £18.50 Consesiynau, £14.50 Prynhawn a £9.00 i rai dan 26 mlwydd oed. Gellir archebu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu fesul y wefan sef torchtheatre.co.uk. Ar gyfer Archebion Ysgol neu Grŵp, cysylltwch â Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu e-bostiwch boxoffice@torchtheatre.co.uk
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.