Breuddwyd Un Dyn o’r GIG - Nye

Michael Sheen sy’n chwarae rhan Nye Bevan ar daith swreal ac ysblennydd trwy fywyd ac etifeddiaeth y dyn a drawsnewidiodd wladwriaeth les Prydain a chreu’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym 1948. Cyfeirir ato’n aml fel y gwleidydd â’r dylanwad mwyaf ar ein gwlad heb fod erioed yn Brif Weinidog. Bydd Nye yn cael ei darlledu’n fyw yn Theatr Torch fis Mai eleni.

Yn wyneb marwolaeth, mae atgofion dyfnaf Aneurin ‘Nye’ Bevan yn ei arwain ar daith o blygu meddwl ar hyd ei fywyd – y cyfan yn datblygu mewn ôl-fflach o’i wely ysbyty; o blentyndod i gloddio dan ddaear, y Senedd ac ymladd â Churchill.

Wedi’i hysgrifennu gan Tim Price (Teh Internet is Serious Business) a’i chyfarwyddo gan Rufus Norris (Small Island), mae’r ffantasia Cymreig epig newydd hwn, cyd-gynhyrchiad gyda Chanolfan Mileniwm Cymru, yn berl go iawn gan y Theatr Genedlaethol.

Wedi ennill tair seren gan Arifa Akbar ar gyfer The Guardian, dywedir bod Sheen yr actor o Gymru “wedi ei gastio’n dda am ei swyn naturiol.” Ychwanegodd Arifa: “(gwallt helmed llwyd, pyjamas brith) … Mae’n dod â chwareusrwydd chwilfrydig a bregusrwydd…..”

Caiff Nye ei sgrinio yn Theatr Torch ar nos Iau 9 Mai am 7.15pm. Pris tocyn: £15 / £13 consesiwn / £8.50 O dan 26. Am docynnau, ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu cliciwch yma.

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.