NT LIVE: GOOD

Yr actor o’r Alban David Tennant (Doctor Who, Broadchurch a Jessica Jones) sy’n dychwelyd i’r West End y bu disgwyl mawr amdano mewn ail-ddychmygiad syfrdanol o un o ddramâu gwleidyddol mwyaf pwerus Prydain NT Live Good, a chaiff ei sgrinio yn Theatr y Torch ar 20 Ebrill.

Wrth i'r byd wynebu’r Ail Ryfel Byd, mae John Halder, athro Almaeneg da, deallus, yn cael ei sugno i fudiad gyda chanlyniadau annirnadwy.

Yr enillydd Gwobr Olivier Dominic Cooke (Follies) sy’n cyfarwyddo stori amserol C.P. Taylor, gyda chast sydd hefyd yn cynnwys Elliot Levey (Coriolanus) a Sharon Small (The Bay). Wedi derbyn adolygiad clodwiw pum seren gan y Financial Times gyda Tennant yn cael ei ddisgrifio fel ‘riveting, witty and intensely human,’ a’r Guardian yn nodi bod ‘David Tennant is magnificent’, mae hon wir yn ffilm na ddylid ei cholli.

Wedi’i ffilmio’n fyw o’r West End Llundain yn Theatr Harold Pinter, bydd NT Live Good yn ymddangos mewn sinemâu ar draws y DU ac Iwerddon a bydd yn apelio i’r rheiny ohonoch sy’n mwynhau ffilmiau Ken LoachSchindler’s List ac American Psycho.Peidiwch â cholli dychweliad hynod ddisgwyliedig David Tennant i’r West End a gweld un o ddramâu mwyaf pwerus Prydain.

Bydd NT Live Good yn cael ei dangos yn Theatr y Torch ar nos Iau 20 Ebrill am 7.30pm. Tocynnau £15 / £13 consesiynau / O dan 26: £8.50. Gellir prynu tocynnau o’n Swyddfa Docynnau ar 01646 695267 neu ewch i torchtheatre.co.uk. 

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.

Find out more about how this website uses cookies to enhance your browsing experience.