NT LIVE: FLEABAG
Wedi ei hysgrifennu a’i pherfformio gan yr enwog seren deledu Phoebe Waller-Bridge (Fleabag, Killing Eve) ac wedi ei chyfarwyddo gan Vicky Jones, mae NT Live Fleabag yn edrychiad dros ben llestri ar ryw fath o fenyw yn byw rhy fath o fywyd. Yn dilyn rhediad swyddfa docynnau wnaeth dorri pob record mewn sinemâu yn 2019 a gan chwarae i gynulleidfaoedd heb yr un tocyn ar ôl yn Efrog Newydd a Llundain, mae’r sioe un-fenyw yn dychwelyd i’r sgrin fawr yr haf hwn a chaiff ei darlledu’n fyw yn Theatr y Torch ar nos Iau 15 Mehefin.
Mae'n bosibl bod Fleabag yn ymddangos yn or-rywiol, yn emosiynol heb ei hidlo ac yn hunan-obsesiynol, ond dim ond y dechrau yw hynny. Gyda theulu a chyfeillgarwch dan straen a chaffi moch cwta yn brwydro i barhau, mae Fleabag yn canfod ei hun yn sydyn heb ddim i'w golli.
Cafodd y ddrama wreiddiol ddoniol a gwobrwyedig a ysbrydolodd y gyfres deledu lwyddiannus y BBC, Fleabag, ei ffilmio’n fyw ar lwyfan Theatr Wyndham, West End Llundain bedair blynedd yn ôl. Mae’r cynhyrchiad wedi derbyn adolygiadau gwych ac wedi ennill pum seren gan rai megis WhatOnStage, Broadway World a The I.
Wedi’i chyflwyno gan DryWrite, Soho Theatre a Theatr Annapurna, mae Fleabag hefyd wedi derbyn pum seren gan y Guardian a’i disgrifiodd fel ‘witty, filthy and supreme’ gydag Atlantic yn cael ei ddyfynnu’n dweud ‘Never has being a modern woman seemed so painfully funny, brutal, and hopeless all at once.’.'
Caiff NT Live Fleabag ei darlledu’n fyw yn Sinema Theatr y Torch ar nos Iau 15 Mehefin am 7pm. Tocynnau: Llawn: £15 / Consesiwn: £13 ac O Dan26: £8.50. Gellir prynu tocynnau o Swyddfa Docynnau Theatr y Torch ar 01646 695267 neu drwy glicio yma.
TORCH THEATRE NEWSLETTER
Get in the Spotlight!
Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.