LANSIO CYNLLUN AELODAETH NEWYDD

Cyhoeddodd Theatr y Torch, Aberdaugleddau gynllun aelodaeth newydd sy’n dod â noddwyr yn nes at eu theatr leol fel nag erioed o’r blaen. Trwy ddod yn aelod o Theatr y Torch nid yn unig byddwch yn cael mynediad at rai buddion gwych - byddwch hefyd yn cefnogi’r theatr i ymestyn ymhellach gyda’i rhaglen artistig a’i phrosiectau ymgysylltu cymunedol.

Mae cynllun aelodaeth newydd y Torch yn helpu i godi arian hanfodol i sicrhau bod y theatr yn gallu parhau â’i gwaith hanfodol ar y llwyfan a thu hwnt, ar yr un pryd â rhoi cipolwg unigryw i noddwyr ar fyd y theatr ac adloniant. Fel elusen gofrestredig nid-er-elw a’r unig theatr gynhyrchu yn Sir Benfro, mae’r Torch yn chwilio am gefnogaeth ei chymuned leol yn fwy nag erioed o’r blaen wrth i’r theatr adfywio ar ôl blwyddyn anodd yn dilyn pandemig Covid-19.

Mae cynllun aelodaeth newydd y Torch yn cynnig tair haen o aelodaeth:

  • Sbarc yn cynnig pobl ifanc sy'n hoff o theatr (o dan 26) y cyfle i fwynhau theatr a mwy a hynny am bris gwych
  • Fflam gyda’r un buddion â’n Sbarc ond ar gyfer oedolion
  • Goleufa yn cynnwys buddion Sbarc a Fflam ond hefyd rhai ychwanegion

Mae’r buddion yn cynnwys cyfnod archebu â blaenoriaeth ar rai sioeau a digwyddiadau arbennig gan gynnwys Cynyrchiadau Cwmni Theatr y Torch, 10% oddi ar bryniannau bwyd a diod heb fod yn alcohol yng Nghaffi’r Torch, cylchlythyrau unigryw i aelodau, gwahoddiadau i ddigwyddiadau arbennig a thocynnau sinema am ddim. Bydd cynllun aelodaeth Newydd y Torch yn helpu aelodau i arbed arian tra'n rhoi'r cyfle i ymwneud mwy â'u theatr leol.

Wrth lansio’r cynllun aelodaeth newydd, dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Theatr y Torch, Chelsey Gillard:

“Rydym wrth ein bodd i fod yn lansio ein cynllun aelodaeth newydd yn y Torch, gan roi cynigion gwych o docynnau i’n cynulleidfaoedd ffyddlon, mynediad i ddigwyddiadau arbennig a’r cyfle i fod yn nes at y digwyddiadau ar y llwyfan nag erioed o’r blaen. Nawr, yn fwy nag erioed, mae angen eich cefnogaeth ar y Torch i'n helpu i barhau i gynhyrchu ein

prosiectau creadigol cyffrous a gweithgareddau cymunedol cynhwysol yn Aberdaugleddau ac ar draws y sir. Rydyn ni'n gwybod bod amserau'n anoddach nag erioed, ond rydyn ni'n gobeithio y byddwch chi'n gallu manteisio ar y buddion gwych a ddaw yn sgil bod yn aelod. Diolch am yr holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.”

Mae cynllun aelodaeth newydd y Torch ar gael i’w brynu nawr naill ai ar-lein o torchtheatre.co.uk neu’n bersonol o Swyddfa Docynnau’r Torch. Mae aelodaeth flynyddol yn dechrau o £15.00, ac ar gyfer unrhyw aelodau newydd sy’n cofrestru cyn 31 Rhagfyr 2022, bydd y theatr hefyd yn cynnig 2 docyn sinema ychwanegol i’w defnyddio i weld unrhyw ddangosiad ffilm yn y Torch ym mis Ionawr 2023 (yn amodol ar argaeledd). Gall yr aelodaeth hefyd fod yn rhodd, gan ei wneud yn anrheg Nadolig gwych i'r rhai sy'n caru'r celfyddydau ac adloniant. I gael rhagor o fanylion am y cynllun ewch i https://www.torchtheatre.co.uk/support-the-torch/memberships/

 

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.