Ydych chi'n gefnogwr Murder Mystery?

Ydych chi'n gefnogwr Murder Mystery? Hoffech chi ddatrys trosedd? Ddydd Iau 31 Hydref gallwch chi fod y Poirot nesaf wrth i The 1920’s Murder Mystery: The Roaring Twin’Ties ddod i Theatr Torch. Bu Anwen yn sgwrsio â Jordan, un o’r cyfarwyddwyr ac actor i ddarganfod mwy am y digwyddiad …

Dywedwch ychydig wrthym am y noson? Beth all cynulleidfaoedd ei ddisgwyl?

Bydd y noson Murder Mystery ryngweithiol hwyliog wedi'i gosod yn America'r 1920au. Mewn clwb yfed tanddaearol, y coctel enwog Deadly Double yw'r diod y mae'n rhaid ei chael. Gyda’r rysáit wedi’i chloi yn sêff y perchennog Marty Lynch, a busnes yn ffynnu, ni allai dim byd fynd o’i le o bosibl…hynny yw nes i efaill Marty, Harry, gyrraedd, gyda dau dditectif wrth ei gynffon.

Bydd y noson yn cynnwys diod groeso a phryd dau gwrs trwy garedigrwydd Caffi Torch.

Pwy sydd tu ôl neu'n gyfrifol am y noson?

Rydyn ni'n galw ein hunain yn Midweek Murder Mystery Club. Fe'i sefydlwyd gennyf inne a dau ffrind, Dan a Gabby, ym mis Awst 2023. Rydym yn creu, yn cynhyrchu ac yn serennu ym mhob un o'n digwyddiadau.

Pa fath o gynulleidfa fydd yn mwynhau'r sioe?

Yn amlwg, cefnogwyr Murder Mystery, ond hefyd cefnogwyr posau ac ystafelloedd dianc. Mae’r digwyddiad arbennig hwn yn cynnwys comedi, felly os ydych chi’n ffan o ychydig o slapstic a ffars yna byddwch chi’n mwynhau’r un yma.

Beth os nad ydych erioed wedi bod i Ddigwyddiad Dirgelwch fel hyn o'r blaen?

Os nad ydych erioed wedi bod yna mae'n hawdd iawn ei fwynhau. Bydd y cymeriadau yn rhyngweithio â chi felly gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn nifer o gwestiynau a chymryd rhan. Peidiwch â phoeni - does dim rhaid i chi ei ddatrys, mae'n ymwneud â'r profiad.

Dyweda ychydig am y cymeriadau.

Mae'r Clwb yn cael ei redeg gan y sioemon carismatig Marty Lynch, ond mae'n gyd-berchen arno gyda'i efaill Harry. Mae'r Clwb yn boblogaidd iawn gan mai'r gantores orau yn y dref Pearl Parker yw eu canwr Cabaret preswyl, ynghyd â'i chantores wrth gefn Lizzie. Mae popeth i'w weld yn mynd yn iawn nes bod y Ditectif Stu P. Idiot yn cyrraedd gyda'i bartner bygythiol, Swyddog Small, ac mae popeth yn mynd ben i waered!

Wyt ti a’r criw wedi perfformio Dirgelwch Llofruddiaeth o'r blaen yn y Torch a ble arall fyddwch chi'n perfformio?

Dyma ein Murder Mystery gyntaf yn Theatr Torch ac yma yn Sir Benfro. Rydym wedi ein lleoli yng Nghaerfyrddin ac wedi perfformio ar draws Sir Gaerfyrddin, Abertawe ac Aberystwyth. Mae gennym ni ein digwyddiad Calan Gaeaf mawr ar y gweill yn Neuadd Ddinesig San Pedr ddydd Sadwrn 2 Tachwedd, felly dewch draw i hwnnw hefyd!

Unrhyw beth arall yr hoffet ei rannu gyda ni?

Rydym yn annog pawb i wisgo i fyny yn eu gwisg 1920au gorau ac i wir fwynhau’r noson!

TORCH THEATRE NEWSLETTER

Get in the Spotlight!

Want to be the first to hear about upcoming performances, exclusive ticket offers, and behind-the-scenes action at the Torch Theatre? Subscribe to our newsletter and let the drama come to you.